Fyddai Dylan Ebenezer “ddim yn synnu mai dyna hi o ran Aaron Ramsey” yng nghrys coch Cymru, ar ôl iddyn nhw golli allan ar le yn Ewro 2024 yn dilyn ciciau o’r smotyn yn erbyn Gwlad Pwyl yng Nghaerdydd neithiwr (nos Fawrth, Mawrth 27).
Ac mae cyflwynydd Sgorio yn dweud ei fod yn teimlo bod “cwestiynau mawr” am ddyfodol y rheolwr Rob Page hefyd.
Cael a chael oedd hi am gyfnodau helaeth o’r gêm dynn yn erbyn gwrthwynebwyr llawer mwy cadarn na’r Ffindir nos Iau (Mawrth 20), ond Daniel James gafodd yr anffawd o weld ei gic o’r smotyn yn cael ei harbed gan Wojciech Szczęsny.
Doedd y canlyniad ddim yn adlewyrchiad o’r perfformiad, yn ôl Dylan Ebenezer.
“Fi’n credu bo nhw wedi chwarae’n weddol dda, i fod yn hollol onest,” meddai wrth golwg360.
“Roedd hi’n gêm anodd, a’r hyn wnaeth pawb broffwydo cyn y gêm wedi digwydd.
“Roedd hi’n dynn, yn agos, dim llawer ynddi – efallai un gôl, cwpwl o eiliadau mawr…
“Dych chi’n meddwl am gôl Ben Davies yn camsefyll, peniad Kieffer Moore, arbediad gwych gan Wojciech Szczęsny… ar ddiwrnod arall, mae un o’r rheina yn mynd mewn a dych chi’n ennill.
“Roedden nhw’n edrych yn flinedig iawn, yn naturiol, erbyn y diwedd hefyd.”
‘Poenus iawn’
Roedd gwylio’r gêm yn brofiad “poenus iawn”, medd Dylan Ebenezer, gan gyfeirio at weld David Brooks yn dod i’r cae yn eilydd ac yn gorfod gadael, cyn i Rob Page egluro mai diffyg egni corfforol oedd y rheswm.
Ond mae hefyd yn cwestiynu pam fod cyn lleied o’r garfan wedi chwarae rhan yn y ddwy gêm fawr yr wythnos hon, a pham fod Aaron Ramsey wedi’i gynnwys ond heb chwarae yn y gêm dyngedfennol.
“Pwy a ŵyr beth oedd yn mynd ymlaen tu ôl y llenni yn y garfan,” meddai’r cyflwynydd wedyn.
“Brooks yn mynd ymlaen ac yn gorfod mynd bant, Ramsey ddim hyd yn oed yn cael ei ystyried i ddod ymlaen…
“Poenus iawn!
“Fi’n credu bod Rob Page wedi dweud ei hun fod Brooks wedi bod yn sâl ers dydd Iau diwethaf, a dim llawer gyda fe yn y tanc.
“Pwy a ŵyr, efallai y byddai e wedi hoffi dechrau gyda’r un unarddeg wnaeth ddechrau yn erbyn y Ffindir…
“Y cwestiwn wedyn yw, pam ddim ymddiried mewn rhywun arall yn hytrach na Kieffer Moore, fel Nathan Broadhead?
“Rydych chi’n teimlo weithiau bod y garfan mor fawr, ond faint o’r eilyddion mae’n ymddiried ynddyn nhw, achos yr un rhai sy’n cael eu hystyried i ddod i’r cae.
“Efallai bod yna gyfle i newid pethau ar un adeg yn y gêm, ond pwy a ŵyr?
“Mae’n syndod gyda Ramsey, achos roedd Joe Allen gyda ni yn rhan o dîm Sgorio, a’r hwyraf roedd y gêm yn mynd ymlaen, roedd e jyst yn dweud, ‘Mae hwn yn berffaith i Ramsey’.
“Ond roeddwn i’n eistedd tu ôl iddo fe a wnaeth e braidd cynhesu i fyny, felly dw i ddim yn meddwl bod e’n opsiwn i ddod ymlaen, hyd yn oed.
“Ond tasai Ramsey hyd yn oed 90% yn ffit, does bosib fyddai e wedi ei daflu fe ymlaen am y deg munud olaf neu amser ychwanegol… jyst i gymryd cic o’r smotyn, hyd yn oed!
“Mae cymaint o or-ymateb ar ôl nosweithiau fel hyn heb wybod y ffeithiau, ond fydden i ddim yn synnu clywed fod e jyst ddim yn ffit, fod e ddim yn opsiwn.
“Duw a ŵyr pam, achos wnaeth e chwarae i Gaerdydd yn erbyn Abertawe am ryw ugain munud, ac mae’n syndod fod e wedi methu gwneud hynny i Gymru.
“Dyfalu fi’n gwneud, ond yn dyfalu fod e jyst ddim yn opsiwn, sy’n gwneud i chi feddwl wedyn pam fod e yna, pam fod e ar y fainc a pham ddim rhoi rhywun arall ar y fainc sydd yn opsiwn?
“Fydden i ddim yn synnu mai dyna hi o ran Ramsey – ffordd siomedig i orffen!
“Efallai y bydd e’n ffansi go arall arni.
“Mae gemau cyfeillgar ym Mehefin ac ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd, fydd yn boenus, ond fydden i ddim yn synnu ei weld e’n rhoi’r gorau iddi, mae’n rhaid cyfadde’n anffodus.”
Y dyfodol heb yr hen chwaraewyr
Gyda Gareth Bale a Joe Allen eisoes wedi ymddeol, ac Aaron Ramsey yn tynnu tua’r terfyn, dangosodd nifer o’r chwaraewyr yn erbyn y Ffindir y dylen nhw fod yn barod i gamu i fyny i lenwi’r bwlch pan fydd angen.
Roedd perfformiadau Brennan Johnson a Harry Wilson ym mlaen y cae ac Ethan Ampadu yn y cefn yn sefyll allan, ac mae’n ymddangos bod gan Jordan James ddyfodol disglair o’i flaen hefyd.
Sut mae’r dyfodol yn edrych heb y sêr sydd wedi cynnal Cymru ers nifer o flynyddoedd, felly?
“Doedd [absenoldeb Ramsey] ddim yn gymaint o issue yn erbyn y Ffindir,” meddai Dylan Ebenezer.
“Rydyn ni wedi dod yn bell, a’r tîm wedi gwneud yn ocê yn ddiweddar ers colli cwpwl o gemau blwyddyn diwetha’.
“Mae’n wir i raddau [bod cyfnod o “transition“, yn ôl Rob Page], ond hefyd mae lot o’r garfan yma wedi bod o gwmpas ers sbel nawr, ac maen nhw’n dweud hynny eu hunain.
“Wilson, Ampadu… maen nhw i gyd yn croesi’r hanner cant o gapiau, mae’r amddiffyn wedi bod yno ers sbel…”
‘Chwaraewr mawr ar gyfer yr eiliad fawr’
Ond mae Dylan Ebenezer hefyd yn teimlo bod un peth mawr ar goll heb chwaraewyr fel Gareth Bale, Aaron Ramsey a Joe Allen.
“Beth maen nhw wedi’i golli – ac mae neithiwr yn tanlinellu hyn – yw chwaraewr mawr ar gyfer yr eiliad fawr,” meddai.
“Pan ydych chi’n edrych yn ôl i gemau ail gyfle Cwpan y Byd, Bale gafodd ni yno, beth bynnag oedd pawb yn dweud am ei goesau e’n mynd ac ati.
“Rhowch y cyfle, yr eiliad, i rywun fel fe ac mae e’n sgorio, ond doedd neb yno neithiwr i wneud hynny.
“Mae yna wirionedd ynddo fe [y “transition“], ond efallai y byddai lot o’r cefnogwyr yn dadlau ei fod e’n esgus hefyd, achos doedd e ddim yn sioc fod Bale, Allen ac efallai Ramsey yn dod i ddiwedd eu gyrfaoedd.
“Efallai y gallech chi ddadlau y dylen ni fod wedi paratoi’n well ar gyfer y transition, ond maen nhw’n edrych yn dda ar adegau, yn cael nosweithiau da fel gêm y Ffindir, ond mai ail-greu hynny ar ôl cwpwl o ddyddiau oedd y broblem.
Disgwyl bellach, nid gobeithio
Gyda Chymru wedi cyrraedd yr Ewros 2016 a 2020 a Chwpan y Byd yn 2022, mae modd dadlau bod yna ddisgwyliad bellach, yn hytrach na gobaith, eu bod nhw’n cymhwyso ar gyfer y prif gystadlaethau rhyngwladol.
Ond mae Dylan Ebenezer hefyd yn dadlau ei bod hi’n haws cymhwyso erbyn hyn nag y bu yn y gorffennol.
“Yn amlwg, mae pawb yn siomedig, ond does dim byd o’i le â disgwyl cyrraedd prif gystadleuaeth pan ydych chi’n gweld, yn y bôn, ei bod hi’n haws cyrraedd y prif gystadlaethau,” meddai.
“Gallen ni fod wedi cyrraedd tair yn olynol, a dyw timau’r gorffennol ddim wedi gwneud hynny, ond os ydych chi’n edrych ar y system o gyrraedd cystadleuaeth yn y gorffennol, byddai lot o dimau’r gorffennol wedi cyrraedd.
“Doedd gorffen yn ail fel arfer ddim yn opsiwn, a’r gemau ail gyfle’n rywbeth cymharol newydd – gawson ni siom yn erbyn Rwsia ugain mlynedd yn ôl – ond fi’n credu y dylen ni fod, os nad yn cyrraedd, yn gorffen yn agos iawn – a wnaethon ni hynny.
“Fi ddim yn credu bod e’n disgwyl gormod.
“Mae pawb yn dweud bo nhw jyst yn genhedlaeth sy’n cymryd pethau’n ganiatol, ond fi ddim yn siŵr am hynny.
“Fi’n credu bo nhw jyst yn genhedlaeth sy’n gweld bod mwy o wledydd yn yr Ewros, mwy o gyfleoedd, mae yna ail gyfle, felly fi’n credu bod gan bawb hawl i ddisgwyl dod yn agos iawn.
“Fel fi’n dweud, wnaethon ni ddod yn agos iawn, ond ddim yn ddigon agos!”
Dyfodol Rob Page yw’r “cwestiwn mawr”
Gyda chenhedlaeth ifanc newydd yn torri drwodd, a rhagor y tu ôl iddyn nhw eto yn chwarae’n dda i’r timau oedran, does dim dwywaith fod y dyfodol yn edrych yn addawol i Gymru.
Ond y cwestiwn mawr bellach yw ai Rob Page yw’r dyn i’w harwain nhw drwy ymgyrch arall, gyda gemau rhagbrofol Cwpan y Byd ar y gorwel.
Roedd cryn drafod am ei ddyfodol yn dilyn Cwpan y Byd digon siomedig, er eu bod nhw wedi cymhwyso am y tro cyntaf ers 1958.
Mae Rob Page ei hun yn mynnu ei fod e am aros am y tro, ond mae Dylan Ebenezer yn teimlo bod dadleuon cryf o blaid ac yn erbyn hynny.
“Mae’n gwestiwn mawr,” meddai.
“Roedden ni’n trafod hyn neithiwr [ar Sgorio], ac mae yna lot o bobol sydd eisiau fe allan ac sydd wedi cael llond bol.
“Fy nheimlad personol neithiwr, o weld y gemau diweddar, yw fod Cymru wedi chwarae’n olreit.
“Fi’n credu bo nhw wedi bod yn chwarae’n eitha’ da, a byddai’n cymryd rhywun caled i wneud y penderfyniad yna nawr i gael gwared arno fe.
“Ond wedyn, sawl cyfle mae e’n mynd i gael? Mae e’n cael digon o gyfleoedd.
“Roedd Cwpan y Byd yn siomedig dros ben, ac eto dydyn nhw ddim wedi llwyddo i wneud beth oedden nhw eisiau ei wneud, sef cyrraedd yr Ewros.
“Dyna’r broblem, fi’n credu. Gallech chi ddadlau’n gryf y naill ffordd neu’r llall – ei bod hi’n amser am newid, ond gallech chi ddadlau’n hawdd ei fod e’n haeddu cyfle arall.
“Dw i’n falch mai nid fi sy’n gwneud y penderfyniad!
“Wnes i ofyn y cwestiwn i Joe Allen, un o’n chwaraewyr gorau ni erioed, ac roedd e’n teimlo’i fod e’n haeddu cyfle arall, a Gwennan Harries yn teimlo’i fod e’n haeddu cyfle arall.
“Roedd Joe yn holi cwpwl o bethau – a yw’r tîm wedi datblygu? Yr ateb i hynny, yn ôl llawer, yw ‘ydyn’.
“Hefyd, a yw’r chwaraewyr yn cefnogi’r rheolwr? Eto, ydyn.
“Byddai’n anodd iawn, a phwy sydd i ddod mewn?
“Iawn os oes gyda chi rywun i ddod mewn, ond dw i ddim yn siŵr.
“Yn reddfol, fi’n credu y byddan nhw’n aros gyda fe, ond fi ar y ffens go iawn!”