Mae tîm pêl-droed Gwlad Pwyl wedi curo Cymru o 5-4 ar giciau o’r smotyn i gyrraedd Ewro 2024.

Dyma’r tro cyntaf erioed i Gymru wynebu ciciau o’r smotyn, ac mae’n golygu na fyddan nhw’n mynd i’r Almaen yn yr haf.

Doedd dim modd gwahanu’r timau yn ystod chwarae agored, a Dan James gafodd yr anffawd o fethu â’r gic dyngedfennol.

Hanner cyntaf

Er gwaetha’r sŵn byddarol a’r tân coch (yn groes i’r rhybuddion) yn y stadiwm ar noson oer yn y brifddinas, dechreuodd yr ornest fawr ar y cae yn ddigon tawel wrth i’r naill dîm a’r llall ymgiprys am y meddiant a goruchafiaeth yn y munudau agoriadol.

Ar noson fel hon, gyda chymaint yn y fantol, roedd hi’n debygol y byddai’r ddau dîm yr un mor awyddus i beidio ildio’n gynnar ag y bydden nhw i dorri llechen lân eu gwrthwynebwyr.

Roedd tipyn o sôn cyn y gêm y byddai Gwlad Pwyl yn wrthwynebwyr tra gwahanol, mwy corfforol na’r Ffindir, ac felly y bu cyn i’r nerfau setlo ryw ychydig ar y naill ochr a’r llall.

Os oedd cyflymdra Cymru am guro’r Ffindir, taldra a chryfder Kieffer Moore fyddai gobaith gorau tîm Rob Page yn erbyn y Pwyliaid, gyda David Brooks wedi ildio’i le ar ôl ei gôl nos Iau (Mawrth 21).

Ychydig ar ôl chwarter awr, ar ôl i Wlad Pwyl wastraffu cic gornel, symudodd y chwarae i ben draw’r cae, a tharo’r bêl dros y trawst â’i ben wnaeth Ben Davies oddi ar y cyfle cyntaf cyn i Moore ei phenio hi’n llydan oddi ar ail gic gornel funudau’n ddiweddarach.

Daeth cyfle euraid i Gymru ym munudau ola’r hanner cyntaf, wrth i Connor Roberts fylchu i lawr yr asgell chwith, ond aeth ei waith yn wastraff yn y pen draw wrth i Gymru fethu â manteisio ar ei groesiad, gafodd ei glirio’n hawdd gan yr amddiffyn.

Os oedd Robert Lewandowski yn gymharol gysglyd yn yr hanner cyntaf, fe wnaeth y ddraig ddihuno ar drothwy’r egwyl, wrth i gic gornel ganfod pen Moore ac wedyn y capten Davies, ond roedd hwnnw’n camsefyll wrth ei tharo hi i’r rhwyd.

Hanner amser: Cymru 0-0 Gwlad Pwyl

Tawelu Moore fyddai’r nod i Wlad Pwyl yn yr ail hanner, ond bu bron iddyn nhw fethu’n syth wrth i beniad yr ymosodwr talsyth tuag at y gornel uchaf orfodi arbediad cynnar gwych, ac arbediad cynta’r gêm, gan Wojciech Szczęsny yn y gôl.

Ond doedd hi ddim yn hir cyn i’r golwr ganfod ei hun ar lawr, wrth i dacl Harry Wilson ar amddiffynnwr ddal cefn coes Szczęsny, ond cafodd y chwarae ei atal cyn i Neco Williams allu tanio’i ergyd at y gôl wag.

Daeth cyfnod estynedig o orfod canolbwyntio i Gymru ar ôl awr, gyda thempo Gwlad Pwyl yn cynyddu, Lewandowski yn dechrau canfod mwy o wagle, a’r Cymry’n dechrau gwneud camgymeriadau bychain sy’n gallu gwneud gwahaniaeth mawr ar ôl 90 munud o bêl-droed dynn.

Daeth hi’n glir ar ddechrau chwarter ola’r gêm y byddai’n rhaid i Gymru newid chwaraewr neu dacteg, ac ar ôl ymddangosiad clodwiw o’r fainc yn erbyn y Ffindir, daeth ail gyfle i Daniel James wrth iddo fe ddod i’r cae yn lle Brennan Johnson, gafodd noson dawel ar ôl chwip o berfformiad nos Iau.

Roedd James ar dân o’r cychwyn cyntaf, gafodd ei amlygu gan y dacl fawr arno gan Jan Bednarek oddi ar ei gyffyrddiad cyntaf.

Ond Cymru oedd dan bwysau erbyn hynny, a byddai’r chwarter awr olaf yn gyfnod nerfus a phryderus i goesau blinedig tîm Rob Page, wrth i’r unarddeg dyn y tu ôl i’r bêl orfod amddiffyn am eu heinioes yn erbyn Pwyliaid oedd yn dechrau magu hyder a momentwm.

O’r ystlys, roedd y deuddegfed dyn – y Wal Goch – yn dal i ganu nerth eu pennau er mwyn ceisio gwthio’r chwaraewyr dros y llinell derfyn cyn yr amser ychwanegol anochel.

Byddai calonnau’r cefnogwyr wedi bod yn eu cegau ar drothwy’r 90 chwiban olaf, wrth i Lewandowski daro’r bêl heibio Danny Ward yn y gôl, ond daeth llygedyn olaf o obaith pan apeliodd Moore am drosedd arno yn y cwrt cosbi, ond aeth yr alwad yn ofer.

Ar ôl 90 munud: Cymru 0-0 Gwlad Pwyl

Bum munud yn unig fu’n rhaid i Gymru aros am gyfle ar ddechrau amser ychwanegol, wrth i Harry Wilson gael ergyd i’w wyneb, a chyfle euraid ar ymyl y cwrt cosbi cyn taro’r wal amddiffynnol.

Ond brwydro’n ôl wnaeth Gwlad Pwyl wedyn, gyda Jakub Piotrowski yn manteisio ar feddiant gafodd ei golli gan Gymru, a’i ergyd yn hedfan heibio’r postyn pellaf heb drafferthu Ward.

Camgymeriad gan Piotrowski arweiniodd at un o gyfleoedd gorau Cymru, ac er mor gadarn arhosodd Moore yn y cwrt cosbi, aeth ei gyfle’n wastraff wrth i Wlad Pwyl glirio’r bêl.

Roedd yr ymwelwyr yn dechrau edrych yn beryglus unwaith eto ar ôl deunaw munud, gyda pheniad yr eilydd Krzysztof Piatek yn mynd heibio’r postyn ar ôl deunaw munud, a chic gornel yn cael ei daro i ffwrdd o’r cwrt cosbi gan Ward funudau’n ddiweddarach.

Wrth i’r gêm lithro tua’i therfyn, gwelodd Chris Mepham ail gerdyn melyn am drosedd ar ochr chwith y cwrt cosbi, ond ciciau o’r smotyn fyddai’n penderfynu’r enillydd yn y pen draw.

Ciciau o’r smotyn

Cyn i’r ciciau tyngedfennol ddechrau o flaen y Wal Goch, roedd amser i oedi ar gyfer ail berfformiad o’n hanthem genedlaethol.

Lewandowski – wedi sgorio

Davies – wedi sgorio

Szymanski – wedi sgorio

Moore – wedi sgorio

Frankowski – wedi sgorio

Wilson – wedi sgorio

Zalewski – wedi sgorio

Williams – wedi sgorio

Piatek – wedi sgorio

James – wedi methu (wedi’i harbed)