Bydd tîm pêl-droed Cymru yn yr Ewros am y trydydd tro yn olynol pe baen nhw’n curo Gwlad Pwyl yn rownd derfynol y gemau ail gyfle yn Stadiwm Dinas Caerdydd heno (nos Fawrth, Mawrth 26).

Roedd buddugoliaeth Gwlad Pwyl o 5-1 dros Estonia yn y rownd gyn-derfynol yr un mor hawdd iddyn nhw ag yr oedd i Gymru wrth iddyn nhw guro’r Ffindir o 4-1, ond mae Gwlad Pwyl yn debygol o fod yn wrthwynebwyr anoddach i’w curo, yn enwedig pe bai Robert Lewandowski yn tanio.

Mae Rob Page wedi bod yn pwysleisio ers tro bod Cymru yng nghanol cyfnod o newid, ac felly fe fyddai’n dipyn o gamp i’r garfan ifanc hon gyrraedd twrnament arall – eu pedwerydd allan o bump ers 2016 o gynnwys Cwpan y Byd 2022 yn Qatar hefyd.

Mae Cymru’n ddi-guro mewn saith gêm, a hynny ar ôl dwy golled siomedig yn erbyn Twrci ac Armenia haf diwethaf, pan oedd hi’n edrych yn debygol na fydden nhw’n cymhwyso a bod swydd Rob Page yn y fantol yn dilyn sylwadau cyhoeddus y Prif Weithredwr Noel Mooney.

Daeth buddugoliaeth yn erbyn Croatia wedyn, ond gêm gyfartal yn erbyn Armenia, a byddai’n rhaid i Gymru wynebu’r gemau ail gyfle ar ôl methu â chymhwyso’n awtomatig.

Mae Gwlad Pwyl wedi dioddef sawl colled siomedig hefyd, nid lleiaf yn erbyn Moldofa ac Albania, gyda’r rheolwr Fernando Santos yn colli’i swydd o ganlyniad.

Timau

Er gwaetha’r holl sôn am ymddeoliad Gareth Bale, ac anafiadau parhaus Aaron Ramsey yn ei gadw e allan am gyfnodau hir, mae gan Gymru ddigon o opsiynau ymosodol erbyn hyn.

Fe wnaeth Rob Page gyfiawnhau ei ddewisiadau ar gyfer y gêm yn erbyn y Ffindir, gan adael Kieffer Moore ar y fainc wrth ddewis cyflymdra ar draul taldra.

Sgoriodd David Brooks ar ôl dechrau’r gêm, ac fe achosoddd Brennan Johnson, Harry Wilson a Daniel James gryn broblemau i amddiffyn y Ffindir.

Ar y fainc fydd Aaron Ramsey, fwy na thebyg, gyda Ben Davies yn gapten unwaith eto.

Bydd Lewandowski yn arwain Gwlad Pwyl, ond un enw fydd ar goll yw Matty Cash, cefnwr Aston Villa, sydd wedi cael anaf.

Ystadegau allweddol

Mae Cymru a Gwlad Pwyl wedi herio’i gilydd ddeg gwaith o’r blaen, ond dim ond unwaith mae Cymru wedi bod yn fuddugol, a hynny yn 1973, gyda dwy gêm gyfartal. Mae Cymru wedi colli chwech yn olynol.

Mae Cymru’n ddi-guro mewn saith gêm – dwy gêm yn llai na’u record o dan reolaeth Rob Page, rhwng Medi 2021 a Mawrth 2022 a dim ond un gêm maen nhw wedi’i cholli allan o bymtheg erbyn hyn.

Mae Gwlad Pwyl wedi colli tair allan o’u pedair gêm ragbrofol ddiwethaf oddi cartref, ac fe fydd yn rhaid iddyn nhw gadw llygad ar Harry Wilson, sydd wedi bod â rhan mewn chwech allan o naw gôl ddiwethaf Cymru.

Ond bydd yn rhaid i Gymru gadw llygad ar Lewandowski hefyd, gyda hwnnw wedi bod â rhan mewn 24 allan o 27 gôl ddiwethaf ei wlad.

Cymru gam yn nes at Ewro 2024

Alun Rhys Chivers

Gwlad Pwyl fydd gwrthwynebwyr y Cymry yn rownd derfynol y gemau ail gyfle yng Nghaerdydd nos Fawrth (Mawrth 26), ar ôl i Gymru guro’r Ffindir o 4-1