Mae tîm pêl-droed Cymru gam yn nes at gymhwyso ar gyfer Ewro 2024, ar ôl curo’r Ffindir o 4-1 yn rownd gyn-derfynol y gemau ail gyfle yng Nghaerdydd.

Daeth y goliau gan David Brooks, Neco Williams, Brennan Johnson a Daniel James, gyda Teemu Pukki yn sgorio i’r ymwelwyr.

Aeth Cymru i mewn i’r gêm yn gwybod fod dwy fuddugoliaeth rhyngddyn nhw a’u trydedd Ewros yn olynol, a’u pedwerydd twrnament allan o bump.

Curo’r Ffindir, a gêm derfynol yn erbyn Gwlad Pwyl neu Estonia yng Nghaerdydd nos Fawrth (Mawrth 26) fyddai gwobr tîm Rob Page.

Roedd amheuon ynghylch Aaron Ramsey, gafodd ei enwi ar y fainc yn dilyn ei ymddangosiad yn erbyn Abertawe yn y gêm ddarbi fawr.

Yn absenoldeb y capten, Ben Davies oedd yn arwain Cymru, gyda Wes Burns, Ben Cabango a Joe Low i gyd allan o’r garfan yn y dyddiau cyn y gêm fawr, a Niall Huggins, Joe Morrell a Tom Bradshaw yn absennol ag anafiadau hefyd.

Ond roedd yna garreg filltir i Ethan Ampadu, wrth i’r chwaraewr canol cae amddiffynnol 23 oed ennill ei hanner canfed cap.

Roedd Robert Taylor allan i’r ymwelwyr, gydag amheuon hefyd am yr ymosodwr Marcus Forss.

Gôl gynnar

Dair munud yn unig gymerodd hi i Gymru ddarganfod y rhwyd, wrth i ergyd Harry Wilson o ochr chwith y cwrt cosbi daro’r golwr Lukas Hrádecky, ac adlamu’n ôl i lwybr David Brooks ar yr ochr dde.

Gyda’r ymwelwyr dan bwysau o’r munudau agoriadol, fydden nhw ddim bellach yn gallu eistedd yn ôl a gadael i Gymru ymosod, ac fe wnaethon nhw greu cyfle yn y nawfed munud wrth i Robin Lod gydweithio â Daniel Håkans ar ochr chwith y cwrt cosbi, a Håkans yn ergydio dros y trawst yn y pen draw.

Gyda’r gêm yn dal i lifo o un pen y cae i’r llall, doedd hi ddim yn hir cyn i Gymru gael ail gyfle o flaen y gôl wrth i Brennan Johnson dorri’n glir, ond roedd e’n camsefyll.

Daeth rhwystredigaeth y Ffindir i’r wyneb ar ôl ryw ugain munud, wrth i Lod weld cerdyn melyn am lorio Neco Williams i atal hwnnw ar ganol rhediad cryf i lawr yr asgell chwith wrth i Gymru barhau i ddominyddu’r meddiant.

Yn fuan ar ôl i’r Ffindir gael cyfle prin o flaen y gôl drwy Joel Pohjanpalo, ond cafodd ei ergyd ei hatal yn y cwrt cosbi wrth i amddiffyn Cymru aros yn gadarn.

Gyda hanner awr ar y cloc, bu bron i chwarae celfydd Cymru yng nghanol cae ddwyn ffrwyth, wrth i Connor Roberts greu cyfle i Harry Wilson ergydio’n bell, ond aeth ei ergyd yn syth at Hrádecky yn y gôl.

Dyblu – a haneru’r fantais

Doedd dim rhaid i Gymru aros yn hir am gyfle arall, wrth i Brennan Johnson gael ei lorio ar ymyl y cwrt cosbi i ennill cic rydd y byddai Gareth Bale wedi bod ar dân eisiau rhoi’r bêl yn y rhwyd.

Ond Wilson sydd â’r cyfrifoldeb erbyn hyn, a thra byddai Bale yn siŵr o’i thanio hi, ffugiodd Wilson y gic a phasio’r bêl i Neco Williams gael ei tharo hi i gefn y rhwyd oddi ar ei droed dde – dim gobaith i’r golwr, ond Cymru’n llawn gobaith gyda blaenoriaeth o ddwy gôl ar ôl 37 munud.

Cafodd y fantais honno ei haneru toc cyn yr egwyl, wrth i Teemu Pukki dwyllo’r amddiffyn a lithro’r bêl heibio i’r golwr Danny Ward, er bod amheuaeth ei fod yn camsefyll cyn i VAR gadarnhau’r gôl.

Diwrnod i’r Bren-in

Os oedd Cymru ar y droed ôl ar ddiwedd yr hanner cyntaf, roedden nhw’n sicr ar y droed flaen ar ddechrau’r ail.

Enillon nhw gic rydd ar ochr chwith y cwrt cosbi, ac ar ôl i’r bêl adlamu oddi ar ben Ampadu, fe wnaeth pàs Brooks ganfod Johnson, a hwnnw’n ei rhoi hi yng nghefn y rhwyd.

Gallai’r bedwaredd gôl fod wedi dod yn fuan iawn wedyn, wrth i Wilson dorri i mewn tua’r gôl ac ergydio heibio’r postyn.

Er bod y fuddugoliaeth yn edrych yn ddigon cyfforddus ar ôl awr, parhau â meddylfryd ymosodol wnaeth Cymru, wrth i Kieffer Moore ddod i’r cae yn eilydd yn lle Brooks, adawodd y maes i fonllef o gymeradwyaeth yn dilyn perfformiad cadarn.

Gyda gobeithion y Ffindir yn pylu gyda rhyw ugain munud yn weddill, fe wnaeth Håkans apelio am gic rydd ar ymyl y cwrt cosbi yn erbyn Joe Rodon, ond yr ymosodwr ac nid yr amddiffynnwr welodd y cerdyn melyn am ffugio’r drosedd.

Unarddeg munud cyn y diwedd, roedd hi’n ymddangos bod Cymru wedi ychwanegu at boen yr ymwelwyr, wrth i gic gornel ganfod pen y capten Ben Davies – ond Cymru ddioddefodd y boen wrth i VAR ganslo’r gôl.

Yr ymwelwyr ddioddefodd y boen olaf yn y pen draw, wrth i gamgymeriad gan yr amddiffynnwr Miro Tenho gael ei gosbi gan Daniel James, redodd o amgylch y golwr a rhoi’r bêl yn y rhwyd i’w gwneud hi’n 4-1.

Yng ngeiriau’r gân oedd yn atseinio yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn y munudau olaf, mae Cymru “yma o hyd”, ac yn llygadu twrnament arall ddwy flynedd ers Cwpan y Byd yn Qatar.

Dim ond Gwlad Pwyl, gurodd Estonia o 5-1, sydd rhwng tîm Cymru a lle ar yr awyren i’r Almaen bellach.