Mae Shaheen Afridi, Jess Jonassen a Tom Kohler-Cadmore ymhlith y sêr sydd wedi arwyddo gyda’r Tân Cymreig ar gyfer cystadleuaeth ddinesig Can Pelen 2024.

Chris Cooke yw’r unig chwaraewr o Forgannwg yng ngharfan tîm y brifddinas, a’r unig ddynion sy’n enedigol o Gymru yn y twrnament yw’r chwaraewr tramor Imad Wasim (Pacistan, yn enedigol o Abertawe) a Phil Salt, gafodd ei eni ym Modelwyddan.

Ond mae nifer o chwaraewyr o Gymru yng ngharfan y menywod, serch hynny, gan gynnwys Alex Griffiths a Claire Nicholas.

Ar noson fawr i’r wyth tîm dinesig yn y twrnament, Jess Jonassen oedd dewis cyntaf tîm Caerdydd, gan ymuno â Tammy Beaumont a Hayley Matthews.

Ymhlith y dynion, bydd Shaheen Afridi a Tom Kohler-Cadmore yn chwarae i’r tîm sydd dan hyfforddiant yr Awstraliad Mike Hussey.

Mae Phoebe Franklin, Ella McCaughan, Claire Nicholas, Alex Griffiths a Jake Ball hefyd wedi’u dewis.

Byddan nhw’n herio chwaraewyr mawr fel Kieron Pollard (Southern Brave), Meg Lanning (London Spirit) a Beth Mooney (Manchester Originals).

Mae’r Gymraes Seren Smale wedi symud o Birmingham Phoenix i Southern Brave.

Ymhlith y sêr eraill yn y twrnament mae Dawid Malan, Tom Banton, Lauren Filer, Ollie Pope, Andre Russell, Ashleigh Gardner, Chamari Athapaththu a Nicholas Pooran.

Carfan y dynion:

Jonny Bairstow (cytundeb canolog), Hayley Matthews (£50,000), Tom Kohler-Cadmore (£125,000), Sophia Dunkley (£50,000), David Willey (£125,000), Shabnim Ismail (£40,000), Shaheen Afridi (£100,000), Tammy Beaumont (£40,000), Joe Clarke (£100,000), Jess Jonassen (£30,000), Haris Rauf (£75,000), Georgia Elwiss (£30,000), Tom Abell (£75,000), Sarah Bryce (£17,500), Glenn Phillips (£60,000), Freya Davies (£17,500), David Payne (£60,000), Phoebe Franklin (£14,000), Luke Wells (£50,000), Emily Windsor (£14,000), Roelof van der Merwe (£50,000), Ella McCaughan (£11,000), Jake Ball (£40,000), Claire Nicholas (£11,000), Stevie Eskinazi (£40,000), Alex Griffiths (£8,000).

 

 

Y twrnament

Bydd y twrnament yn dechrau ar Orffennaf 23, ac mae’r trefnwyr yn addo cyffro ar y cae, cerddoriaeth fyw ac adloniant i’r teulu oll.

Aeth cyfanswm o 580,000 o bobol i wylio’r twrnament y llynedd, gan gynnwys dros 300,000 yng ngemau’r menywod.

Cafodd 41% o’r holl docynnau eu gwerthu i deuluoedd, 23% i blant a 30% i fenywod.

Mae tocynnau ar gael yn y ffenest bresennol gan Fawrth 27, a bydd blaenoriaeth rhwng Ebrill 9-23 ar gyfer cefnogwyr sy’n cofrestru ymlaen llaw drwy’r wefan.

Bydd tocynnau ar werth i’r cyhoedd o Ebrill 25, ac yn costio £5 i blant tair i bymtheg oed (rhad ac am ddim i blant dan dair oed), ac £11+ i oedolion.

Bydd yr holl gemau’n cael eu darlledu gan y BBC a/neu Sky Sports a’r cyfryngau cymdeithasol.