Mae’r Gymraes Menna Fitzpatrick wedi cipio medal aur yng Nghwpan Para-alpaidd y Byd.

Daeth hi i’r brig yn y gystadleuaeth slalom yn Sella Nevea, gyda’r pâr ar y blaen o 1.78 eiliad.

Alexandra Rexova a Hugo Rybar o Hwngari enillodd y fedal arian, gyda Sara Choi a Sanghyun Jung yn cipio efydd.

Does neb wedi ennill mwy o fedalau Paralympaidd dros Brydain na Menna Fitzpatrick, sy’n enedigol o Macclesfield.