Mae’r asgellwr Wes Burns wedi tynnu’n ôl o garfan bêl-droed Cymru oherwydd anaf i linyn y gâr.

Dioddefodd e’r anaf wrth chwarae i Ipswich yn erbyn Sheffield Wednesday yn y Bencampwriaeth.

Bydd Cymru’n herio’r Ffindir nos Iau (Mawrth 21), a phe baen nhw’n fuddugol bydd rownd derfynol y gemau ail gyfle i gyrraedd Ewro 2024 yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd bum niwrnod yn ddiweddarach.

Roedd Ben Cabango a Joe Low eisoes wedi tynnu’n ôl o’r garfan, gyda Morgan Fox wedi’i ychwanegu.