Dydy Joe Allen ddim yn disgwyl galwad gan Rob Page, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, i gynrychioli ei wlad eto.
Daw sylwadau chwaraewr canol cae Abertawe wrth iddo fe ddweud y byddai’n fodlon gwyrdroi ei benderfyniad i ymddeol o’r llwyfan rhyngwladol pe bai cais yn dod i wisgo’r crys coch eto ar drothwy Ewro 2024.
Bydd Cymru’n herio’r Ffindir yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau (Mawrth 21), wrth iddyn nhw geisio cyrraedd yr Ewros am y trydydd tro yn olynol.
Pe baen nhw’n fuddugol, byddan nhw’n herio Gwlad Pwyl neu Estonia bum niwrnod yn ddiweddarach am le yn y twrnament yn yr Almaen.
Ond rhoddodd Allen, 34, y gorau i chwarae dros Gymru ychydig dros flwyddyn yn ôl.
‘Fyddwn i byth yn dweud na’
Enillodd Joe Allen 74 o gapiau dros Gymru, gan chwarae yng Nghwpan y Byd a’r Ewros, ond mae’n annhebygol y bydd e’n ychwanegu at ei gyfanswm, meddai.
“Wrth gwrs, pe bai [Rob Page] yn gofyn, fyddwn i byth yn dweud na,” meddai.
“Ond dw i wedi bod yn dweud yn ddiweddar, dw i ddim yn credu y daw’r alwad ffôn.”
Serch hynny, mae gan Gymru bryderon am nifer o chwaraewyr canol cae, gyda’r chwaraewyr ifainc Dylan Levitt, Josh Sheehan a Charlie Savage wedi’u dewis.
Dydy Ethan Ampadu ddim wedi bod yn chwarae yng nghanol cae i Leeds yn rheolaidd gan eu bod nhw’n ei ddewis fel amddiffynnwr, a dydy Aaron Ramsey ddim yn holliach eto.
Ond cafodd Joe Allen nifer o anafiadau yn ystod ei yrfa ryngwladol, a dydy e ddim wedi chwarae’n rheolaidd i Abertawe.
Mae Rob Page eisoes wedi dweud nad yw’n bwriadu gofyn i Joe Allen ailystyried ei ddyfodol rhyngwladol.