Mae Ben Cabango, Cymro Cymraeg o Gaerdydd sy’n chwarae i dîm pêl-droed Abertawe, yn edrych ymlaen at ddarbi de Cymru yn Stadiwm Swansea.com fory (dydd Sadwrn, Mawrth 16, 12.30yp).

Yr Adar Gleision oedd yn fuddugol yn y ddarbi gyntaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddechrau’r tymor, a bydd yr Elyrch yn awyddus i dalu’r pwyth yn ôl y tro hwn.

Roedd Ben Cabango yn allweddol yn y ddwy fuddugoliaeth ddiwethaf i’r Elyrch, gyda’i goliau’n sicrhau’r dwbl cyntaf i Abertawe yn hanes y ddarbi.

Canolbwyntio ar y gêm ddarbi

Mae’r amddiffynnwr canol wedi’i enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau ail gyfle Ewro 2024, ond mae’n canolbwyntio ar ymgyrch Abertawe yn y Bencampwriaeth am y tro.

“Mae rhywbeth arbennig am ddiwrnodau’r darbi, does dim amheuaeth,” meddai.

“Gallwch chi deimlo’r wefr o gwmpas y ddinas a’r clwb, ac mae pobol yn rhoi gwybod i chi beth mae’n ei olygu iddyn nhw.

“Rydych chi’n gwybod fod cyfle gyda chi i wneud rhywbeth arbennig i’r cefnogwyr, ac i wneud hynny mae’n rhaid i ni berfformio ar y cae.

“Maen nhw’n achlysuron arbennig i fod yn rhan ohonyn nhw, ond fel chwaraewyr mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n canolbwyntio ar yr hyn sy’n rhaid i ni ei wneud, a sicrhau ein bod ni’n perfformio.”