Mae Aled Siôn Davies yn dweud mai mewn digwyddiad tebyg i’r Ŵyl Para-chwaraeon yn Abertawe roedd e wedi “ffeindio talent am daflu pethau o gwmpas”.

Roedd y Cymro Cymraeg o Ben-y-bont ar Ogwr yn Abertawe ddoe (dydd Iau, Mawrth 14) i lansio’r digwyddiad fydd yn cael ei gynnal yn y ddinas rhwng Gorffennaf 8-14.

Ymhlith y campau fydd yn rhan o’r ŵyl mae jiwdo, tenis bwrdd, boccia, rygbi cadair olwyn, saethu a rygbi’r gynghrair, gyda chyfle i’r cyhoedd roi cynnig ar rai o’r campau hyn.

Nod y digwyddiad yw annog pobol o bob oed i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Blwyddyn fawr

Mae gan Aled Siôn Davies flwyddyn fawr o’i flaen yn 2024, wrth anelu am fedal aur Baralympaidd arall yn y taflu pwysau yn Paris dros yr haf.

Ym mhrifddinas Ffrainc enillodd e’r fedal aur yng nghategori F63 ym Mhencampwriaeth y Byd haf diwethaf, a bydd e’n dychwelyd yno ym mis Awst

Cipiodd e’r fedal efydd yn ei Gemau cyntaf yn Llundain yn 2012 (a’r fedal aur yn y ddisgen), medalau aur yn y ddwy gamp yn Rio de Janeiro yn 2016, a dwy aur eto yn Tokyo yn 2020.

Ond yn hytrach na bod yn y maes yn y byd chwaraeon anabledd, yn y pwll nofio ddechreuodd e gystadlu yn llanc ifanc.

“Pan oeddwn i’n tyfu lan, roeddwn i wedi dechrau nofio, achos roedd fy mrawd yn nofio ac roeddwn i’n ei guro fe!” meddai wrth golwg360.

“Doeddwn i ddim yn gwybod unrhyw beth am chwaraeon anabledd, a doeddwn i ddim eisiau derbyn y ffaith bo fi ag anabledd hefyd, achos doeddwn i byth wedi bod o gwmpas unrhyw un efo anabledd, neu unrhyw glwb na chwaraeon. Dim byd o gwbl.

“Roeddwn i ambwyti 13 mlwydd oed pan oedd Mam wedi gweld hysbyseb yn y papur newydd i glwb nofio anabledd ym Mhen-y-bont.

“Doeddwn i ddim eisiau mynd ar y pryd, ond wedyn pan oeddwn i wedi mynd, roeddwn i wedi gweld sawl math gwahanol o anabledd, a phobol fel fi.

“Roedd hwnna’n enfawr i fi, achos doeddwn i byth wedi gweld unrhyw un fel fi o’r blaen.

“Ac roedd e’n anhygoel i fod o gwmpas gwahanol fathau o bobol efo gwahanol fathau o anableddau, a beth roedden nhw’n gallu gwneud.

“Hwnna oedd y dechrau i fi, ond roeddwn i efo breuddwyd o fynd i’r Gemau Paralympaidd ac yn gwybod fod e ddim yn mynd i fod mewn nofio!”

Pencampwr y byd, a medal aur Baralympaidd arall?

Roedd 2023 yn “flwyddyn enfawr” i bencampwr y byd, ac mae’n dweud bod ei gorff wedi newid tipyn ers Gemau’r Gymanwlad a’i fod e wedi cael nifer o anafiadau.

A oedd ganddo fe bwynt i’w brofi, felly?

“Roedd e’n bwysig iawn i wneud yn siŵr, ar ôl gwneud y ddisgen am flwyddyn yng Ngemau’r Gymanwlad, bo fi’n dangos i bawb beth dw i’n gallu gwneud [yn y taflu pwysau] ym Mhencampwriaeth y Byd.

“Achos roeddwn i eisiau bod yn rhif un yn y byd yn dod i mewn i’r flwyddyn yma, achos mae’n bwysig iawn.

“Roedd y flwyddyn ddiwethaf yn llawer o waith caled, ond hefyd roeddwn i wedi dod yn ôl â medal o’r lliw cywir.”

Os oedd 2023 yn flwyddyn fawr, mae 2024 am fod yn flwyddyn enfawr wrth iddo fe anelu am fedal aur Baralympaidd arall yn Paris, ac mae’n teimlo’n hyderus gyda rhai misoedd yn unig i fynd.

“Mae’r paratoadau’n mynd yn dda ar hyn o bryd, a dw i’n teimlo’n dda,” meddai.

“Dw i’n dal yn rhif un yn y byd, sef y peth pwysicaf, ond mae sawl person yn y gamp nawr sydd eisiau curo fi.

“Mae llawer o bobol newydd yn dod trwyddo, pobol ifanc, felly mae’n mynd i fod yn flwyddyn anodd, y Gemau anoddaf erioed i fi, ond hefyd dw i’n edrych ymlaen at y sialens ac yn gwybod bo fi’n gallu dod â’r lliw cywir yn ôl adref.”

Wrth ganolbwyntio ar y taflu pwysau am y tro, pa mor obeithiol yw Aled Siôn Davies y caiff e gyfle arall am fedal aur yn y ddisgen, sydd wedi’i thynnu o’i ddosbarth e ar hyn o bryd?

“Dw i eisiau ennill medal aur yn y ddisgen yn y Gemau Paralympaidd eto, ond sa i’n gwybod os yw e’n mynd i ddod ’nôl yn fy ngyrfa i ar hyn o bryd,” meddai.

“Achos maen nhw ond yn cymryd campau ma’s ar hyn o bryd a ddim yn rhoi rhai newydd i mewn.

“Dw i’n edrych tuag at y flwyddyn yma ac yn anelu at amddiffyn fy medal aur, wedyn gobeithio cael y pedair.

“O ran y darlun mawr, dw i wedi bod yn edrych tuag at LA 2028, a dw i’n credu taw hwnna fydd yr un olaf.

“Dw i eisiau gwneud pedair blynedd arall, achos dw i’n dal yn credu bo fi’n gallu gwthio record y byd ymhellach.”

Cael blas ar amryw o gampau

Yng Ngŵyl Para-chwaraeon Abertawe, gall y cyhoedd, gan gynnwys plant ysgol, roi cynnig ar bob math o gampau – o boccia i rygbi mewn cadair olwyn.

Ar ddiwrnod o’r fath y cafodd Aled Siôn Davies ei ysbrydoli go iawn i fentro i’r byd para-chwaraeon, meddai.

“Roeddwn i wedi cael siawns i fynd i un o’r diwrnodau fel heddiw, ond yng Nghaerdydd, ac roeddwn i wedi trio pob camp dan haul, a dweud y gwir.

“Roeddwn i wedi dod ar draws seiclo, rhwyfo, ac wedyn athletau, ac roeddwn i wedi cael siawns i wneud gwahanol gampau, ac wedi ffeindio talent am daflu pethau o gwmpas!

“Fi’n credu bod diwrnodau fel hyn yn bwysig iawn i bobol gael siawns i drio pethau, a hefyd i gael hwyl a bod yn rhan o deulu enfawr chwaraeon anabledd.”

Mwy o arwyr heddiw

Nathan Stephens

Ac eithrio Tanni Grey-Thompson, efallai, prin oedd yr arwyr Cymreig oedd yn cystadlu yn y byd para-chwaraeon pan oedd Aled Siôn Davies yn ifanc.

Ei deulu, yn hytrach nag athletwyr, oedd ei arwyr bryd hynny, meddai.

Un o’i arwyr cyntaf, meddai, oedd Nathan Stephens, un arall o Ben-y-bont, oedd yn cystadlu yn y gwaywffon F57.

“Pan oeddwn i wedi dod i mewn i chwaraeon anabledd, roeddwn i eisiau bod fel Nathan Stephens!” meddai.

“Achos pan oeddwn i wedi dechrau, roedd e ar y brig, yn cystadlu dros Brydain, ac roeddwn i eisiau bod yn gwneud yr un peth â fe.

“A gweld beth oedd Tanni Grey-Thompson wedi gwneud i Gymru, a’r medalau roedd hi wedi’u hennill yn y Gemau, roeddwn i jyst eisiau bod yn un o’r enwau enfawr yma sy’n rhoi Cymru ar y map.”

Dod yn arwr yn ei hawl ei hun

Bellach, mae Aled Siôn Davies yntau’n un o’r arwyr y gall y genhedlaeth nesaf eu hedmygu.

Ac er ei fod e bellach yn nes at ddiwedd ei yrfa na’i dechrau hi, mae’n dal i anelu am yr entrychion ac yn hybu chwaraeon anabledd bob cyfle ddaw, gan arwain drwy esiampl.

“Ers i fi ddechrau’r gamp, dw i wedi gwthio record y byd ymlaen ac roeddwn i eisiau newid beth oedd pawb yn meddwl am chwaraeon anabledd,” meddai.

“Ac roeddwn i eisiau i bawb weld bod e’n chwaraeon o safon uchel iawn.

“Mae hi mor bwysig i fi wneud yn siŵr bo fi’n paratoi ac yn ymarfer mor galed â phosib, achos dw i wastad eisiau bod ar y tîm sy’n cystadlu dros Brydain, ond hefyd roeddwn i eisiau dod adref â’r medalau aur.

“Dw i bob amser yn edrych ar y perfformiad a faint mor bell dwi’n gallu taflu, ond mae diwrnodau fel hwn yn gwneud i fi gofio bod rhaid i ni ffeindio’r athletwyr nesaf.

“Bydda i’n gallu gorffen wedyn!”

Gŵyl Para-chwaraeon Abertawe 2024: “Anhygoel” gweld plant yn rhoi cynnig arni

Alun Rhys Chivers

Bydd yr ŵyl yn dychwelyd i’r ddinas unwaith eto ym mis Gorffennaf, ac mae Michael Jenkins o Sir Benfro yn edrych ymlaen