Mae trefnwyr Gŵyl Para-chwaraeon Abertawe’n disgwyl eu digwyddiad mwyaf erioed eleni, wrth iddi ddychwelyd i’r ddinas dros yr haf (Gorffennaf 8-14).

Nod yr ŵyl yw ysbrydoli ac annog pobol o bob oed a gallu i gymryd rhan yn y byd chwaraeon, ac mae wedi’i chefnogi gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Abertawe, nifer o gyrff chwaraeon cenedlaethol, Prifysgol Abertawe, SPAR a Chwaraeon Anabledd Cymru.

Dyma’r trydydd tro i’r digwyddiad gael ei gynnal yn y ddinas, sy’n dod yn gadarnle ar gyfer chwaraeon anabledd yng Nghymru.

Bydd mwy o gystadlaethau cenedlaethol yn rhan o’r ŵyl eleni, gyda mwy o gystadleuwyr o wledydd tramor yn cymryd rhan, a mwy o gyfleoedd i’r cyhoedd roi cynnig ar ambell gamp hefyd.

Bydd y cyfan yn dechrau ar Orffennaf 8, gyda diwrnod o weithgareddau dan arweiniad hyfforddwyr cymwys mewn dros ugain o gampau i bawb gael cymryd rhan ynddyn nhw, ar gampws Parc Singleton Prifysgol Abertawe.

Bydd ysgolion lleol yn bresennol, a gall unigolion a theuluoedd gofrestru ar-lein ar gyfer y digwyddiad.

Bydd Pencampwriaeth Boccia y Deyrnas Unedig yn rhan o’r ŵyl, gyda chystadlaethau unigol, parau a thimau.

Bydd yr ŵyl hefyd yn croesawu Pencampwriaeth Saethu Agored Prydain; cystadlaethau jiwdo; Pencampwriaeth Rygbi Cadair Olwyn Agored Cymru, gyda thimau’r Gweilch, y Dreigiau a Rygbi Gogledd Cymru’n cymryd rhan; a Phencampwriaeth Tenis Bwrdd Agored Abertawe’r BPTT (senglau, dyblau cymysgu a senglau cymysg ieuenctid).

Bydd gêm rygbi’r gynghrair hefyd rhwng Cymru a’r Sêr ar gae San Helen, ynghyd â Chyfres Para-Triathlon y Byd sy’n gystadleuaeth i gymhwyso ar gyfer y Gemau Paralympaidd yn Paris.

Lansiad

Yn y digwyddiad lansio yn Abertawe ddydd Iau (Mawrth 14) roedd Aled Siôn Davies (para-athletau), Michael Jenkins (para-athletau), Kyron Bishop (rygbi cadair olwyn), Kirsty Taylor (para-syrffio) a Sienna Allen-Chaplin.

Roedd disgyblion o ysgolion uwchradd Treforys, Bishop Vaughan, Birchgrove, Bishopston, Dylan Thomas yn y lansiad, ynghyd â disgyblion Ysgol Pen y Bryn ac Ysgol Heol Goffa, Llanelli.

Aled Siôn Davies a Michael Jenkins

Un sydd wedi elwa ar ddigwyddiadau tebyg yn y gorffennol yw Michael Jenkins, taflwr o Sir Benfro sy’n cystadlu i Harriers Sir Benfro ac sydd eisoes yn gwneud enw iddo fe ei hun yn ei arddegau.

Cipiodd e’r fedal arian gyda thafliad o 17.14m yn y taflu pwysau i ennill medal arian y byd haf diwethaf.

Cyn hynny, ei dafliad gorau oedd 15.30m.

“Mae’n anhygoel i weld cymaint o blant fan hyn sy’n trio pethau newydd ac yn cael hwyl yn ei wneud e,” meddai’r Cymro Cymraeg wrth golwg360 am yr ŵyl para-chwaraeon, gan ychwanegu bod sêr fel Aled Siôn Davies wedi ei ysbrydoli yntau yn ei dro hefyd.

“Mae Aled Siôn wedi bod yn anhygoel i fi.

“Dw i wedi bod yn ei wylio fe ers i fi fod yn ddeg oed, ac ers ei wylio fe dw i wedi dod i mewn i chwaraeon ac wedi bod yn gwneud yn eithaf da.

“Mae Aled wedi helpu fi gyda bron popeth dw i wedi gwneud mewn athletau hyd yn hyn.

“Yn y World Champs, roedd e’n rhoi tips i fi a gwneud yn siŵr bo fi ddim yn teimlo’n nerfus a bod plan gyda fi cyn mynd allan.

“Dw i’n ffocysu flwyddyn hyn ar y ddisgen, a gobeithio y galla i fwrw’r 50m.

“O ran cystadlaethau, dyw fy nghategori i ddim yn y Gemau yn Paris, ond dw i’n meddwl mynd allan i Ffrainc i wylio Aled – does dim amheuaeth gyda fi [y bydd e’n ennill y fedal aur].”

Michael Jenkins

Gemau Paralympaidd 2012 wedi ysbrydoli un fu’n lansio gŵyl para-chwaraeon newydd yn Abertawe

Alun Rhys Chivers

Mae Michael Jenkins o Hwlffordd, sydd ond yn 17 oed, eisoes wedi creu argraff fel para-athletwr