Mae rheolwr tîm pêl-droed y Ffindir wedi canmol Cymru, ar ôl i dîm Rob Page eu curo nhw o 4-1 yn rownd gyn-derfynol y gemau ail gyfle i gyrraedd Ewro 2024.

Mae’r canlyniad yn golygu y bydd Cymru’n herio Gwlad Pwyl yn y rownd derfynol yng Nghaerdydd nos Fawrth (Mawrth 26), a hynny am le ar yr awyren i’r Almaen yn yr haf.

Byddai hynny’n golygu cymhwyso ar gyfer y trydedd Ewros yn olynol, a’u pedwerydd twrnament allan o’r pump diwethaf.

“Yn gyntaf oll, dw i eisiau llongyfarch Cymru ar ennill,” meddai Markku Kanerva ar ôl y gêm.

“Chwaraeon nhw gêm dda.

“Wrth gwrs fy mod i’n siomedig o ran y lefel roeddwn i ei eisiau, ond un rheswm [am fethu] oedd fod Cymru wedi chwarae cystal.

“Sgoriodd Cymru ar ddiwedd y ddau hanner, a gobeithio y byddan nhw’n mynd yr holl ffordd i’r Ewros.”

Ond mae Cymru’n wynebu her o fath gwahanol yn erbyn Gwlad Pwyl, yn ôl Markku Kanerva.

Dywed mai cryfderau Cymru fydd eu cyflymdra, eu chwarae gosod a gwrthymosod sy’n “effeithiol iawn ac yn beryglus”.

“Mae ganddyn nhw safon yn eu carfan,” meddai, gan ychwanegu ei fod yn disgwyl gêm agos.

Dywed hefyd fod absenoldeb Kieffer Moore ym mlaen y cae yn “syndod gwirioneddol”, gyda Brennan Johnson yn dechrau.

“Roedden ni’n gwybod y byddai Kieffer Moore fwy na thebyg yn dod ymlaen rywbryd, ac wrth gwrs mae e’n fath gwahanol o ymosodwr i Johnson, yn rhif naw.

“Mae hynny’n dangos y safon a’r gwahanol fathau o chwaraewyr sydd gan Gymru ar hyn o bryd, ac mae’n dda cael hynny.”

Twrnament arall ar y gorwel

Tra bydd y Ffindir yn herio Estonia ac yn troi eu sylw at Gynghrair y Cenhedloedd yn yr hydref, mae Cymru un gêm i ffwrdd o dwrnament unwaith eto.

Dywed Rob Page ei fod e’n “fodlon iawn” â’r perfformiad a’r canlyniad.

“Roedd ambell eiliad anghyfforddus yn y gêm, ond pan ydych chi’n chwarae yn erbyn tîm da dydy pethau ddim bob amser yn mynd o’ch plaid chi.

“Roedden ni eisiau dechrau’r gêm yn gyflym, ac yn sicr fe wnaethon ni hynny â gôl gynnar oedd wedi ein setlo ni rywfaint.

“Yn ddealladwy, mae timau da yn dechrau rheoli’r gêm wrth ddod i mewn iddi, a wnaethon ni ddim gwasgu’n iawn yn yr hanner cyntaf felly aethon ni i’r afael â hynny hanner amser a gwneud ambell newid ac roeddwn i’n teimlo bod hynny wedi’n gwella ni ar ddechrau’r ail hanner.

“Roedd cael y gôl gynnar ar ddechrau’r ail hanner yn sicr wedi helpu o ran ein gwneud ni’n gyfforddus hefyd, ac ar noson arall gallai fod wedi bod yn bump neu chwech [gôl].”

Cyflymdra wedi niweidio’r gwrthwynebwyr

Gyda Brennan Johnson, Harry Wilson a David Brooks yn driawd ym mlaen y cae, dechreuodd Kieffer Moore ar y fainc, gyda Daniel James hefyd yn dod i’r cae yn eilydd.

Ac fe fu’n rhaid i Gymru ymdopi heb eu capten Aaron Ramsey, oedd ar y fainc ar gyfer y gêm hon wrth barhau i wella ar ôl anaf.

Yn ôl Rob Page, doedd dewis Moore ar y fainc ddim yn adlewyrchu’n wael arno fe.

“Mae e’n rhedwr pwerus, fel dangosodd e i ni yn erbyn Armenia, yn rhedeg y sianeli,” meddai’r rheolwr.

“Y pen tost mwyaf i fi o ran dewisiadau oedd blaen y cae, fel sydd wedi cael ei ddweud droeon.

“Roedd yn benderfyniad anodd i’w wneud, ond roeddwn i’n gwybod o edrych ar y dadansoddiad y byddai cyflymdra’n eu niweidio nhw.

“Y peth da hefyd yw fod chwaraewyr fel DJ [Daniel James] yn dod oddi ar y fainc ac yn chwarae’n dda, yn sgorio goliau ac yn llawn hyder, a dyna pam ei fod e’n cael y dylanwad mae’n ei gael.

“Dyna pam fo Nathan Broadhead yn dod ymlaen ac yn cael dylanwad.

“Mae gan Kieffer broffil gwahanol, ac mae’n her wahanol i ymdopi â fe.

“Pan fo gyda chi chwaraewyr yn chwarae i’w clybiau, mae’n wych y gallwch chi edrych arnyn nhw ar ôl awr a’u cael nhw ar y cae, ac maen nhw’n ychwanegu gwerth ac yn newid y gêm i ni.”

Canmol Ethan Ampadu

Ethan Ampadu yn ei hanner canfed gêm dros Gymru

Ac yntau ond yn 23 oed, mae gan Ethan Ampadu 50 o gapiau dros Gymru bellach.

Yn ôl Rob Page, roedd ei gyfraniad yn erbyn y Ffindir yn un “enfawr”.

“A JJ [Jordan James] hefyd; gadewch i ni beidio anwybyddu’r hyn mae e wedi’i wneud, yn fachgen ifanc sydd wedi camu i mewn heb lawer o gapiau.

“Mewn sefyllfa lle mae e dan bwysau mewn gêm fel honno, roedd ei berfformiad o safon anhygoel.

“Roedd Harry Wilson a Brennan Johnson yn fygythiadau parhaus, a Brooksy gyda’i gôl – roedden ni’n gwybod yn iawn beth fydden ni’n ei gael gan H a Brooksy; roedden ni eu heisiau nhw ar y bêl, a Brennan yno yn y diwedd, a diolch byth fe wnaeth e weithio.”

Dechrau’r gêm heb Aaron Ramsey

Er nad yw’n holliach, roedd awgrym cyn y gêm y gallai Rob Page droi at Aaron Ramsey pe bai Cymru ar ei hôl hi ar unrhyw adeg.

Ond gyda Chymru’n dominyddu ac wedi cipio buddugoliaeth hawdd, arhosodd y capten ar y fainc.

Ac fe wnaeth y rheolwr gyfeirio at y ffrae honedig rhyngddo fe ac Erol Bulut, rheolwr Caerdydd, ynghylch ei ffitrwydd.

“Roeddwn i’n syfrdan ynghylch yr heip o gwmpas y peth,” meddai.

“Os oes tebygolrwydd o 1% o gael Aaron Ramsey yn fy ngharfan, dw i’n mynd i’w gymryd e, nid dim ond oherwydd ei safon ar y cae ond sut mae e yn yr ystafell newid ac o gwmpas y lle.

“Y gwahaniaeth yw fod y llanw wedi troi nawr.

“Does dim angen i ni ei gael e ar y cae nawr; byddai wedi bod yn braf, ond does dim angen i ni wneud, oherwydd bod gyda ni bobol eraill.”

Ychwanega fod yr holl sôn am Aaron Ramsey cyn y gêm wedi bod yn “amharchus” i’r chwaraewyr eraill.

Cymru gam yn nes at Ewro 2024

Alun Rhys Chivers

Gwlad Pwyl fydd gwrthwynebwyr y Cymry yn rownd derfynol y gemau ail gyfle yng Nghaerdydd nos Fawrth (Mawrth 26), ar ôl i Gymru guro’r Ffindir o 4-1