Mae Grant Bradburn o Seland Newydd wedi’i benodi’n brif hyfforddwr tîm criced Morgannwg, gan olynu Matthew Maynard a Mark Alleyne, fu’n rhannu’r swydd y tymor diwethaf. Yma, mae golwg360 yn holi cyn-hyfforddwr Pacistan a’r Alban am ei argraffiadau o Gymru, ei athroniaeth hyfforddi, y capteniaid, a’i obeithion ar gyfer y tymor i ddod.
Grant, croeso i Gymru ac i Forgannwg. Beth yw’ch argraffiadau chi hyd yn hyn?
“Dw i wrth fy modd, ac yn wir fwynhau’r awyrgylch o fewn y clwb.
“Mae hi wedi bod mor braf cael cwrdd â’r chwaraewyr i gyd. Doeddwn i ddim ond yn nabod rhai ohonyn nhw, ac wedi cwrdd â nifer ohonyn nhw o’r blaen, felly mae hi wedi bod yn newydd i fi.
“Ond dw i wedi cael croeso cynnes iawn, er bod y tywydd yn crap! Dw i wedi hyfforddi yn yr Alban, felly dw i’n gwybod am y tywydd!”
Allwn ni ddisgwyl newidiadau mawr o gymharu â’r tymor diwethaf?
“Newidiadau mawr, ac mae’r newid cyfeiriad yn gyfle braf â llygaid ffres yn dod i mewn.
“Dw i’n parchu’n fawr yr hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol, a dw i’n sicr wedi cael digonedd o bobol sydd eisiau siarad â fi am yr hyn sydd angen ei drwsio a’r hyn sydd wedi digwydd! Ond dw i hefyd yn awyddus i warchod y llygaid ffres hynny.
“Dw i jyst yn awyddus iawn, a heb wastraffu amser cyn mynd â’r criw yma o chwaraewyr i gyfeiriad newydd, syml, gydag eglurder o ran sut mae ennill yn edrych. Ac rydyn ni’n mynd i weithio’n galed iawn i greu cyfnod newydd llwyddiannus.”
Beth yw eich athroniaeth fel hyfforddwr?
“Un athroniaeth sydd gen i yw rheoli’r hyn sy’n gallu cael ei reoli. Allwn ni ddim rheoli’r tywydd. Rydyn ni wedi dewis peidio mynd i ffwrdd ar daith y tymor yma i baratoi ar gyfer y tymor newydd, felly rydyn ni’n gwneud y mwyaf o’r hyn sydd gyda ni yma, ac mae gennym ni gyfleusterau gwych yng Ngerddi Sophia.
“Mae bod dan do wedi bod yn wych, ac alla i ddim beirniadu’r agwedd a’r sgiliau dw i’n eu gweld, na’r egni dw i’n ei synhwyro gan y staff a’r chwaraewyr. Ond dw i’n gweithio’n galed i roi eglurder iddyn nhw, yn y lle cyntaf ynghylch y cyfeiriad rydyn ni eisiau ei gymryd, ac eglurder o ran rolau unigolion, sut mae ennill yn edrych, eu rolau unigol o fewn hynny, a chreu proffil chwaraewyr syml sy’n galluogi pawb ohonom ni fel hyfforddwyr i weithio drostyn nhw.
“Yn y bôn, rydyn ni yma i wasanaethu’r chwaraewyr, ac mae’n bwysig iawn bod pawb ohonom fel hyfforddwyr yn gweithio gyda phob unigolyn o fewn grŵp ar bethau perthnasol sy’n mynd i’w helpu nhw i fynd i lefel newydd.
“Dw i wrth fy modd â’r cyfle, a’r cyfle i weithio gyda’r chwaraewyr yn y tymor hir, treulio mwy o amser ar y dasg dan sylw, ac mae datblygu chwaraewyr yn newid braf o gymharu â fy rôl flaenorol gyda Phacistan.”
Allwch chi egluro’r penderfyniad i hollti’r gapteniaeth, a phenodi Sam Northeast a Kiran Carlson?
“Dw i’n credu ein bod ni wedi’n bendithio â dau arweinydd da iawn, sy’n uchel iawn eu parch o fewn y grŵp. Ac maen nhw’n ddau chwaraewr yn y lle cyntaf sydd ar fy matrics capteniaeth fel rhai sy’n benderfynol ac sydd â’r gallu i berfformio i lefel uchel iawn ar y cae fel chwaraewyr yn y lle cyntaf, ac yn ail fel capteniaid.
“Mae gan y ddau chwaraewr gryn sgiliau, ac maen nhw’n awyddus i fynd â’r clwb hwn i gyfeiriad gwahanol hefyd.
“O ran Kiran, mae e wedi cyrraedd y fan lle bydden ni wrth ein boddau yn ei wthio fe a pharhau i’w herio fe i fynd i lefel newydd. Yn ddelfrydol, bydden ni’n hoffi ei weld e’n gadael yr amgylchfyd yma am yr un nesaf, a dyna’n bwriad ni gyda Kiran.
“Rydyn ni hefyd yn lwcus iawn o gael rhywun o safon Sam, ei brofiad a’i natur addfwyn, a’r cymeriad gwahanol y bydd e’n ei ychwanegu i’r ystafell newid.
“Gyda’i gilydd, dw i’n credu ei bod yn gwneud synnwyr i ni beidio â gorlwytho Kiran neu Sam o ran y gapteniaeth am y tymor cyfan, a gadael iddyn nhw ganolbwyntio go iawn ar fod yn arweinwyr o ran eu perfformiadau. Dw i’n credu mai dyna’r penderfyniad tyngedfennol o ran hynny.”
Ydych chi’n bwriadu gwneud newidiadau drwyddi draw, felly?
“Bob tro mae yna hyfforddwr newydd, mae yna gyfle i ailosod, ac mae hi wir yn dibynnu sut mae’r hyfforddwr newydd hwnnw’n dod i mewn.
“Dw i’n ymwybodol iawn o ystadegau pawb a’r hyn maen nhw wedi’i wneud yn y gorffennol, ond dw i hefyd yn glir iawn o ran yr hyn sydd angen i ni ei wneud i ennill pencampwriaethau ac i ddod â thlysau yn ôl i Erddi Sophia.
“Mae’r chwaraewyr bellach yn glir iawn eu meddyliau am y broses sydd ei hangen, ac maen nhw’n gwybod ei bod hi am gymryd tipyn o waith caled a llawer o newid agweddau yn y lle cyntaf.
“Un o’r agweddau hynny dw i’n synhwyro’n newid yn ddifrifol yw peidio â bod yn gyfforddus yn yr Ail Adran. Dydyn ni ddim yn gyfforddus â lle’r ydyn ni, ac rydyn ni eisiau ennill yr Adran Gyntaf yn y dyfodol yn ystod y cyfnod newydd hwn.
“Rydyn ni’n gwybod nawr beth yw’r broses sydd ei hangen, a’r hyn sydd ei angen i wireddu hynny. Rydyn ni’n gosod cyfeiriad newydd, ond rydyn ni’n ymwybodol iawn ei bod hi am gymryd tipyn o waith caled, ac rydyn ni eisoes wedi dechrau ar y gwaith hwnnw.
“Dw i’n hapus iawn â’r egni a’r agwedd at waith dw i’n eu gweld hyd yn hyn.”
Beth fyddai tymor llwyddiannus yn ei olygu i chi?
“Yn syml iawn, cystadlu ym mhob fformat o’r gêm, a does dim rheswm pam na allwn ni wneud hynny.
“Efallai nad oes gennym ni ddyfnder y sgiliau sydd gan rai siroedd eraill, ond mae sgiliau gennym ni, yn sicr.
“Galla i weld bod nifer o’r bois ifainc hyn sy’n dod drwodd wedi dod drwy’r Academi, ac maen nhw’n ysu am eglurder ac ysbrydoliaeth eu bod nhw ar y llwybr i chwarae ar y lefel nesaf. Maen nhw mewn amgylchfyd nawr lle mae’n iawn iddyn nhw fethu, ac maen nhw mewn amgylchedd dysgu cyfoethog lle rydyn ni’n annog pawb i weithio’n galed i gyrraedd y pen draw bob amser.
“Dydy hynny ddim yn golygu’r bois ifainc yn unig, ond hefyd chwaraewyr fel Colin Ingram a Chris Cooke, sy’n enghreifftiau hyfryd o chwaraewyr sy’n amlwg yn ceisio gwella’u gêm, hyd yn oed ar yr adeg yma yn eu gyrfaoedd.
“Rydyn ni’n gweld amgylchedd braf iawn ar hyn o bryd, ond rydyn ni hefyd yn realistig nad ydyn ni wedi mynd allan eto. Y cam nesaf fydd dod â’r un egni a chyfeiriad allan yn y canol. Ond rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed. Y cyfan sydd ei angen nawr yw ychydig o heulwen i gael y coesau allan ar y glaswellt, felly dw i’n credu mai dyna’r cam nesaf.”
Beth hoffech chi ei gael allan o’r gêm baratoadol yn erbyn Prifysgolion Caerdydd UCCE?
“Dw i wir yn edrych ymlaen at honno.
“Mae yna allu arbennig yn y gêm sirol i gael mynediad at ddeunydd fideo a’r holl ystadegau sydd eu hangen arna i. Dw i’n ymwybodol iawn o’r hyn mae [y chwaraewyr] wedi’i wneud yn y gorffennol, ac yn ymwybodol iawn o’r hyn sydd angen i ni ei wneud i gystadlu.
“Os ydyn ni’n cystadlu am dlysau, gall unrhyw beth ddigwydd yn y pen draw. Rydyn ni gystal ag unrhyw dîm arall, a gallwn ni chwarae cystal â neb ar ddiwrnod da.
“Dw i wir yn edrych ymlaen at gael dechrau nawr!”