Mae tîm rygbi Cymru wedi cael eu gwahodd gan Undeb Rygbi Georgia i deithio i Tblisi ar gyfer gêm brawf rhwng y ddwy wlad.

Fe fu cryn drafod ers tro ynghylch a ddylai gwledydd rygbi bychain gael cystadlu ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, gyda rhai yn awgrymu mae dyrchafu’r gwledydd bychain a gostwng y tîm ar waelod tabl y Chwe Gwlad fyddai’r ffordd deg o wneud hynny.

Eleni, byddai hynny wedi golygu bod Cymru’n gostwng ar ôl cael y llwy bren am y tro cyntaf ers 21 o flynyddoedd.

Yn ôl Undeb Rygbi Georgia, maen nhw’n awyddus i groesawu Cymru i’w gwlad yn yr hydref.

‘Cysylltiad hyfryd rhwng ein dwy genedl rygbi’

“Mae cysylltiad hyfryd rhwng chwaraewyr a chefnogwyr ein dwy genedl rygbi falch, ac rydym wedi cael nifer o gemau cystadleuol gwych,” meddai Undeb Rygbi Georgia.

“Ein hanrhydedd yw gwahodd Cymru i Tblisi – ac i chwarae gêm gyfatebol yng Nghaerdydd pryd bynnag sy’n gyfleus.

“Fel y dywedodd Sam Warburton, dyna mae caredigion rygbi ym mhob man eisiau ei weld!

“Felly gadewch i ni wneud iddo fe ddigwydd.

“Yn Georgia, rydym yn hoffi dweud bod ‘gwestai yn rhodd’.

“Allwn ni ddim meddwl am well rhodd na chroesawu’r Cymry i Tblisi yr hydref yma.”

Ymateb Cymru

Mae Undeb Rygbi Cymru bellach wedi ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddweud y “gwnawn ni gysylltu” â Georgia.