Bydd angen i dîm criced Morgannwg ennill mwy o gemau yn 2024 os ydyn nhw am ennill dyrchafiad i Adran Gynta’r Bencampwriaeth eleni, yn ôl eu capten newydd.
Yn dilyn ymadawiad David Lloyd, sydd wedi ymuno â Swydd Derby, mae Sam Northeast wedi’i benodi’n gapten ar gyfer y gemau pedwar diwrnod, gyda Kiran Carlson wrth y llyw yn y cystadlaethau undydd.
Dyma’r drydedd sir i Northeast ei harwain, yn dilyn cyfnodau wrth y llyw yng Nghaint a Hampshire yn y gorffennol, ac mae’n gobeithio y bydd y profiad sydd ganddo fe o fudd i Forgannwg y tymor hwn.
Mae e eisoes wedi creu argraff yng nghrys Morgannwg, gan ennill Chwaraewr y Flwyddyn yn ei dymor cyntaf gyda’r sir, ac mae e hefyd wedi torri record y sir Gymreig am y sgôr uchaf erioed yn y Bencampwriaeth ac mewn gemau undydd.
Bydd Morgannwg yn sicr yn gobeithio y gall e arwain drwy esiampl unwaith eto eleni.
“Mae gen i rywfaint o brofiad, yn enwedig mewn criced sirol, a dw i’n deall yr hyn mae’n ei gymryd i ennill yn y Bencampwriaeth,” meddai wrth golwg360.
“Dw i’n sicr yn gwybod nad yw’r Ail Adran yn gynghrair hawdd i godi allan ohoni, ac mae’n sicr yn cynnig heriau.
“Ond mae gen i brofiad a gallu, dw i wedi bod o gwmpas ers tipyn ac wedi ei wneud e o’r blaen, yn deall beth wnes i’n dda a beth oedd ddim cystal.
“Dyna’r peth cyffrous – ei wneud e eto, a rhoi ar waith yr hyn wnes i ddim ei wneud cystal y tro cyntaf.”
Capten naturiol?
Ac yntau wedi arwain dwy sir o’r blaen, byddai rhai yn dadlau bod Sam Northeast yn arweinydd naturiol.
Cafodd y ddawn honno ei meithrin gan Gaint pan oedd e’n chwaraewr ifanc yn codi drwy’r rhengoedd, ac yntau eisoes yn taro canred ar ôl canred i dimau ysgolion ac ieuenctid.
Aeth yn ei flaen i gynrychioli ysgol fonedd Harrow, yn un o’r chwaraewyr ieuengaf erioed i chwarae yn y gêm yn erbyn Eton, ac yna tîm Lloegr dan 15 ac ennill Chwaraewr y Flwyddyn BBC Test Match Special.
Yn ystod ei gyfnod yn yr ysgol, roedd e hefyd yn chwarae sboncen ar lefel sirol, yn rhedwr trawsgwlad addawol, yn chwaraewr pêl-droed disglair gafodd gynnig treialon sirol, a hefyd yn chwarae rygbi ac yn cystadlu yn y naid hir a’r 400m gan dorri recordiau yng Nghaint.
Ar ôl dewis criced, cafodd ei adnabod fel capten ac arweinydd naturiol, gan fynd yn ei flaen i fod yn is-gapten o dan Rob Key, sydd bellach yn Gyfarwyddwr Criced Lloegr.
“Roedd [y gapteniaeth] yn rywbeth ges i fy nghlustnodi’n eithaf ifanc ar ei chyfer, a dysgais i dipyn o’r hyn dw i’n ei gredu gan Rob Key, a minnau’n ddirprwy iddo am sawl blwyddyn,” meddai.
“Fe wnes i’r gapteniaeth yng Nghaint am ddwy flynedd a hanner, felly mae gen i’r profiad yna a dw i’n mwynhau ei wneud e.
“Mae’n rywbeth dw i’n angerddol iawn yn ei gylch e, felly dw i wir yn edrych ymlaen at her newydd [yn arwain Morgannwg].”
Cydweithio
Me gan Forgannwg brif hyfforddwr newydd hefyd, sef Grant Bradburn o Seland Newydd, sydd â phrofiad o hyfforddi gyda thimau ryngwladol yr Alban a Phacistan.
Yn ôl Sam Northeast, mae e eisoes wedi dod â ffresni i’r clwb, ac mae’n ei atgoffa o un o’i gyn-brif hyfforddwyr yng Nghaint.
“Mae Grant wedi bod yn wych,” meddai.
“Mae teimlad ffres, newydd o amgylch y clwb ar hyn o bryd.
“Mae’n fy atgoffa i dipyn o Graham Ford [cyn-Gyfarwyddwr Criced Caint] pan oeddwn i yng Nghaint, gyda’r ymdeimlad hamddenol braf hwnnw.
“Mae e’n cyfathrebu’n dda iawn ac yn ychwanegu dwyster, a meddylfryd a diwylliant o weithio’n galed ymhlith y grŵp.
“Eto, mae e wedi gweithio ar y lefel uchaf yn y gamp, felly mae e’n mynd i ddod â llawer o brofiad a gwybodaeth i ni hefyd.”
‘Dim newidiadau enfawr’
Dros y gaeaf, mae Morgannwg wedi penodi prif hyfforddwr newydd, dau gapten newydd, prif weithredwr newydd ac wedi gweld nifer o chwaraewyr yn mynd a dod.
Yn eu plith mae David Lloyd [i Swydd Derby] a Michael Neser [i Hampshire], gyda’r troellwr coes Mason Crane a’r bowliwr llaw chwith Mir Hamza yn glanio yng Nghymru.
Ond yn ôl Sam Northeast, dydy hi ddim yn teimlo fel pe bai newidiadau mawr wedi digwydd chwaith.
“Mae yna ffresni, a gobeithio y daw hynny â gwerth ychwanegol sy’n ein gwthio ni, yn enwedig mewn criced pêl goch lle rydyn ni wedi bod yn eithaf agos ati.
“Gobeithio y gall ambell newid bach ein gwthio ni i’r brig, a dyna’r cyfan sydd ei angen – ambell newid bach fan hyn a fan draw.
“Yn amlwg, mae Grant yn adnabod Mir Hamza yn dda iawn, ac mae e’n dod ar sail argymhelliad cryf ganddo fe.
“Mae e’n amlwg am fod â chryn sgiliau yn gynnar yn y tymor, a dyna rydyn ni’n anelu ato ganddo fe.
“Roeddwn i’n gapten ar Mason yng Nghaint, ac mae e’n gallu troi’r bêl ar unrhyw arwyneb, bron.
“Fe sy’n mynd i ennill gemau i ni, ac rydyn ni’n amlwg yn mynd i orfod ei ddefnyddio fe ar yr adegau iawn a’i gefnogi fe.”
I’r gwrthwyneb, bydd colled fawr ar ôl Michael Neser, meddai.
“Roedd Ness yn anhygoel, ac nid dim ond fel cricedwr.
“Bron yn chwaraewr amryddawn, roedd e’n hanfodol i ni, ond yn wych oddi ar y cae hefyd yn nhermau’r hyn roedd e’n ei gynnig i’r clwb a’r diwylliant.
“Mae e’n golled fawr, ond gobeithio y gwelwn ni fe ym Morgannwg eto.
“Tebyg at ei debyg yw hi i raddau gyda Mir Hamza, sydd ag esgidiau mawr i’w llenwi, ond gobeithio y gwelwn ni fe ar ei orau.
“Ac fe gawn ni’r gwningen llawn egni, Marnus Labuschagne, yn ôl ar ryw adeg fis Mai i roi hwb i ni.”
‘Gwneud Gerddi Sophia yn gadarnle’
Yn ogystal ag ennill mwy o gemau, mae Sam Northeast o’r farn fod rhaid i Forgannwg sicrhau bod Gerddi Sophia, eu cartref yng Nghaerdydd, yn gadarnle iddyn nhw.
“Bydd yn rhaid i ni ennill mwy o gemau, does dim amheuaeth am hynny,” meddai.
“Rydyn ni am orfod canfod ffordd o ennill mwy o gemau gartref, a gwneud [Gerddi Sophia] yn gadarnle.
“Dydyn ni ddim wedi cael pethau’n iawn yma o ran sut rydyn ni eisiau chwarae a’n dull o chwarae, felly mae hynny am orfod bod yn ffocws i ni, ennill cynifer o gemau yma â phosib, a chael tîm mor grwn â phosib i gael addasu i’r amodau.
“Mae gyda ni gymysgedd da o chwaraewyr cyffrous yn dod i mewn a chwaraewyr profiadol – mae’r cymysgedd yn braf.
“Ond rydyn ni am orfod bwrw iddi’n gyflym.
“Mae’n destun ychydig o siom nad ydyn ni wedi gallu mynd allan ryw lawer [oherwydd y tywydd], ond rydyn ni am orfod manteisio ar yr wythnosau cyn y gêm yn erbyn Middlesex [oddi cartref yn Lord’s ar Ebrill 5] gorau gallwn ni.”