Mae Rob Page, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, yn dweud ei fod e’n deall rhwystredigaeth y cefnogwyr yn dilyn gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Gibraltar neithiwr (nos Iau, Mehefin 6).
Dangosodd y Wal Goch eu dicter wrth i’r chwaraewyr adael y cae, ac fe fu rhai hyd yn oed yn galw am ddiswyddo’r rheolwr.
Daw hynny ar ben y siom o golli allan ar le yn Ewro 2024.
“Rhydd i bawb ei farn,” meddai Rob Page ar ddiwedd y gêm, wrth gyfaddef ei fod e’n “siomedig” ynghylch y perfformiad ond ei fod yn parhau i edrych ar “y darlun mawr”.
Dyma dîm oedd yn cynnwys pum chwaraewr oedd yn ennill eu capiau cyntaf i’r tîm cenedlaethol, ac o dan arweiniad Josh Sheehan yn ei chweched gêm dros ei wlad.
Digon oedd digon erbyn yr egwyl, wrth i Brennan Johnson, Kieffer Moore a Dan James ddod oddi ar y fainc, ond doedden nhw chwaith ddim yn ddigon o hwb i’r tîm wrth iddyn nhw ei chael hi’n anodd yn erbyn y tîm sy’n rhif 203 yn y byd ac sydd heb fuddugoliaeth ers 2022.
Tarodd Sheehan y postyn oddi ar gic gornel, cafodd peniad Ben Cabango ei arbed oddi ar linell y gôl, a chafodd Lewis Koumas ei atal gan y golwr Jaylan Hankins.
Ychydig iawn o gyfleoedd gafodd Cymru fel arall, a bydd yn rhaid i’r perfformiad fod dipyn gwell yn erbyn Slofacia ddydd Sul (Mehefin 9).