Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Glan Letheren, cyn-chwaraewr a hyfforddwr Clwb Pêl-droed Abertawe, sydd wedi marw’n 68 oed.

Yn wreiddiol o Ddafen ger Llanelli, chwaraeodd y golwr 21 o gemau i’r Elyrch rhwng 1979 a 1981 yn ystod oes aur y clwb wrth iddyn nhw ddringo i’r Adran Gyntaf o dan reolaeth John Toshack.

Chwaraeodd e i dîm dan 23 Cymru, ond doedd e ddim wedi llwyddo i ennill cap dros y brif dîm er ei fod e wedi’i ddewis yn y garfan sawl gwaith.

Dechreuodd ei yrfa gyda Leeds, ac aeth yn ei flaen i chwarae i Scunthorpe, Chesterfield, Blackpool, Oxford City, Scarborough, ac yna i Fangor wrth iddyn nhw gyrraedd rownd derfynol Tlws FA Lloegr yn 1984.

Chwaraeodd e i Lanelli yng nghynghreiriau Cymru hefyd, ac roedd hefyd yn gricedwr dawnus i dîm Dafen, lle bu hefyd yn chwarae pêl-droed am gyfnod.

Aeth yn ei flaen i fod yn sgowt a hyfforddwr gyda’r Elyrch ar ôl ymddeol, a bu’n hyfforddi tîm menywod Cymru, Caerwysg (Exeter), Caer a Chaerlŷr, cyn symud dramor i weithio yn Awstralia, Haiti a St Lucia.

Bu’n rhedeg academi TopCatch i gôl-geidwaid y dyfodol ar y cyd â’i fab Kyle, oedd wedi treulio cyfnod yn ymarfer gyda’r Elyrch ar ddechrau ei yrfa.