Ar ôl curo Middlesex o dair wiced yn Lord’s neithiwr (nos Iau, Mehefin 6) – eu buddugoliaeth ugain pelawd gyntaf erioed ar y cae – mae tîm criced yn teithio i Chelmsford heno (nos Wener, Mehefin 7) i herio Essex yn y Vitality Blast.

Mae’r canlyniad neithiwr yn golygu bod Morgannwg bellach wedi ennill dwy – yn erbyn Sussex a Middlesex – a cholli un o’u tair gêm agoriadol yn y gystadleuaeth, gyda’r unig golled yn erbyn Surrey o 19 rhediad yr wythnos ddiwethaf.

Sgoriodd Surrey 200 am wyth yn y gêm honno yng Nghaerdydd, a doedd hanner canred yr un i Colin Ingram a Marnus Labuschagne ddim yn ddigon i achub y gêm.

Tarodd Sam Northeast 61 yn erbyn Sussex, gyda dwy wiced Mason Crane yn helpu i amddiffyn sgôr o 183 am saith.

Mae gan Crane, Jamie McIlroy a Dan Douthwaite dair wiced yr un yn y gystadleuaeth hyd yma, tra bod Colin Ingram yn brif sgoriwr rhediadau’r sir.

Y gêm ddiwethaf yn erbyn Essex

Essex oedd yn fuddugol y tro diwethaf i’r ddwy sir gwrdd mewn gêm ugain pelawd, a hynny yn Chelmsford y tymor diwethaf.

Roedd hanner canred i Feroze Khushi a 43 gan Paul Walter yn ddigon i Essex gwrso 176 yn llwyddiannus i sicrhau eu pedwaredd buddugoliaeth o’r bron.

Tarodd Kiran Carlson 43 oddi ar 25 pelen yn y gêm honno, gyda Simon Harmer yn cipio dwy wiced i’r Saeson.

Cipiodd Morgannwg ddwy wiced gynnar cyn i Khushi a Walter adeiladu partneriaeth allweddol o 80 oddi ar 48 o belenni am y bedwaredd wiced, cyn i Daniel Sams daro 41 oddi ar 16 o belenni yn niwedd y batiad, wrth i Essex gyrraedd y nod gyda phedair pelawd lawn yn weddill.

Carfan Essex: S Harmer (capten), B Allison, C Allison, A Beard, L Benkenstein, J Cox, M Critchley, R Das, D Elgar, M Pepper, J Richards, A Rossington, D Sams, S Snater, N Thain, P Walter

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), E Byrom, S Northeast, C Ingram, M Labuschagne, C Cooke, D Douthwaite, T Bevan, M Crane, T van der Gugten, J McIlroy, H Podmore, B Kellaway, A Gorvin

Sgorfwrdd