Colli o ddwy wiced oedd hanes tîm criced Morgannwg yn erbyn Essex yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast yn Chelmsford nos Wener (Mehefin 7).

Gosododd y sir Gymreig nod o 166, diolch i 52 gan Colin Ingram, ar ôl i Eddie Byrom golli ei wiced i Daniel Sams yn gynnar yn y batiad, wrth i’r bowliwr gipio tair wiced.

Adeiladodd Kiran Carlson a Marnus Labuschagne bartneriaeth werthfawr o 63, ac ychwanegodd Ingram a Carlson 48 rhyngddyn nhw wedyn.

Cwrso’n llwyddiannus

Dechreuodd Essex yn gryf wrth gwrso’r nod, wrth i Adam Rossington gyrraedd y garreg filltir o 500 rhediad T20 i Essex, a 3,000 rhediad yn ei yrfa.

Ar ôl i Dean Elgar a Rossington ychwanegu 43, fe wnaeth Michael Pepper arwain y ffordd drwy sgorio’n gyflym.

Tro ar fyd?

Rhoddodd troellwyr coes lygedyn o obaith i Forgannwg, yn enwedig Mason Crane gyda’i bedair wiced am 25, ei ffigurau gorau erioed.

Roedd tair wiced hefyd i droellwr coes arall, Marnus Labuschagne, gan gynnwys wiced fawr Rossington.

Er i Essex golli saith wiced am 31 rhediad, cawson nhw eu hachub gan Luc Benkenstein, 19, oedd wedi sgorio 35 heb fod allan oddi ar 21 o belenni.

Ar y cyd â Shane Snater (20), llwyddodd e i arwain Essex i fuddugoliaeth gydag wyth pelen yn weddill.