Mae’r cyfnod hwn yn hanes pêl-droed Cymru’n “teimlo fel dyddiau olaf” Bobby Gould yn rheolwr ar y tîm cenedlaethol, yn ôl y sylwebydd a chyflwynydd Dylan Ebenezer.
Ond wrth siarad â golwg360, er bod cyfnod Gould wrth y llyw yn “siambls”, mae’n cyfaddef fod y feirniadaeth mae Rob Page yn ei hwynebu’n dod ar ddiwedd y cyfnod mwyaf llwyddiannus yn hanes y tîm.
Ar ôl cymhwyso ar gyfer yr Ewros yn 2016 a 2020 a Chwpan y Byd yn 2022, dyma’r tro cyntaf ers degawd i Gymru fethu â chymwyso ar gyfer un o’r prif gystadlaethau rhyngwladol.
Yn dilyn y siom o golli allan ar le yn yr Ewros eleni, mae canlyniadau diweddaraf Cymru wedi siomi sylwebyddion a chefnogwyr fel ei gilydd, gyda chrasfa o 4-0 gan Slofacia yn dilyn gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Gibraltar, oedd yn rhif 203 ar restr detholion y byd.
Yn ôl Dylan Ebenezer, roedd y gêm ddi-sgôr yn “syndod mawr” – er bod y rhestr o chwaraewyr absennol yn cynnwys Aaron Ramsey, Wayne Hennessey, David Brooks, Harry Wilson a Neco Williams.
“Fi’n gwybod fod yna lot o ffactorau allech chi eu rhestru nhw – gêm gyfeillgar, diwedd tymor, tîm di-brofiad, lot o resymau sy’n esbonio’r canlyniad,” meddai wrth golwg360.
“Ond mae cael gêm ddi-sgôr yn erbyn un o’r timau gwaethaf yn y byd – rhif 203 yn y byd – yn anhygoel.
“Dim ots pa dîm [gafodd ei ddewis gan Gymru], dylen ni fod yn ennill yn erbyn Gibraltar, hyd yn oed os yw hi’n 1-0 gyda gôl hwyr neu beth bynnag.
“Fi’n methu credu. Mae e lan yna gydag un o’r canlyniadau gwaetha’, fi’n credu.”
Roedd y cyhoeddiad mai Josh Sheehan, oedd yn ennill ei chweched cap, fyddai’n gapten ar gyfer y gêm yn erbyn Gibraltar yn arwydd o’r math o garfan fyddai’n cael ei dewis, yn ôl Dylan Ebenezer.
“Daeth hwnna ma’s y diwrnod cynt, ac roedd pobol yn dechrau dyfalu’n syth pa fath o dîm fyddai Rob Page yn ei ddewis.
“Roeddech chi’n deall pam.
“Roedd eisiau rhoi cyfle i rai o’r chwaraewyr, ond eto fi’n dal yn synnu.
“Rydyn ni wedi bod yn edrych ymlaen at weld rhai o’r chwaraewyr hyn yn cael eu cyfle, ac mae’n hawdd edrych ar y rheolwr, ond mae’n rhaid eu beirniadu nhw [y chwaraewyr] hefyd.
“Byddech chi’n meddwl eu bod nhw’n ysu i gymryd eu cyfle.
“Mae’n anodd taflu tîm at ei gilydd, ac mae’n teimlo’n annheg weithiau, ond pan ydych chi’n ei roi e yn ei gyd-destun, rydyn ni’n sôn am wledydd fel Andorra, Liechtenstein… Dyna’r mathau o dimau rydyn ni wedi methu sgorio yn eu herbyn nhw.
“Mae’n dipyn o beth.”
Mwy o ddrwg nag o ddaioni
Gyda chwaraewyr fel Fin Stevens, Charlie Crew, Jay DaSilva, Josh Sheehan ac eraill wedi cael eu cyfle yn absenoldeb rhai o’r hoelion wyth, oes perygl y gallai canlyniadau o’r fath niweidio hyder y chwaraewyr ar ddechrau eu gyrfaoedd rhyngwladol?
“Dyw e ddim yn helpu,” meddai Dylan Ebenezer.
“Roedd lot o bobol, a chyn-chwaraewyr gyda ni ar Sgorio, yn sôn bo nhw ddim eisiau’r gemau yma.
“Roedd rhaid iddyn nhw chwarae’r gemau cyfeillgar, ond mae’n siŵr fyddai’n well gan Robert Page gael y chwaraewyr at ei gilydd i ymarfer mewn camp.
“Ond mae disgwyl iddyn nhw chwarae’r gemau cyfeillgar, a dyw e ddim yn mynd i helpu eu hyder nhw, fydden i ddim yn tybio.
“Cafodd rhai gyfle yn yr ail gêm, fyddai wedi’u helpu nhw, ond alla i ddim gweld beth fydden nhw wedi cael ma’s ohoni, y chwaraewyr ddaeth mewn a bod yn rhan o dîm oedd ddim wedi curo Gibraltar.
“Dyw e ddim yn lot i roi ar CV!”
‘Disgwyl colli’
Roedd Dylan Ebenezer yn disgwyl i Gymru golli yn erbyn Slofacia, meddai, ond prin y byddai neb wedi disgwyl colli i’r fath raddau.
“Roedd e’n dibynnu lot sut fyddai Slofacia yn trin y gêm hefyd,” meddai.
“Eto, mae rhywbeth am gyfnod Robert Page, ffactorau allech chi eu hamddiffyn, achos fe wnaethon nhw’n weddol yn yr hanner cyntaf.
“Ond roedd y gôl reit ar ddiwedd yr hanner cyntaf wedi lladd unrhyw bositifrwydd oedd wedi tyfu yn yr hanner cyntaf.
“Mae’n howler gan Danny Ward, a’r mwya’ rydych chi’n ei gweld hi, y gwaetha’ mae hi’n mynd.
“Mae dros flwyddyn ers iddo fe chwarae i’w glwb, ac efallai bod hwnna’n ffactor.
“Eto, gallech chi sôn am ffactorau, ond collon nhw o 4-0.
“Gêm gyfeillgar oedd hi, ond eto, mae’n ychwanegu at y pwysau erbyn hyn.”
Y pwysau’n cynyddu
Er mai dwy gêm gyfeillgar sydd newydd fynd heibio, maen nhw’n ychwanegu at ddarlun mawr siomedig i Rob Page.
Fe fu cryn ddyfalu dros y flwyddyn ddiwethaf, ac yn enwedig yn sgil peidio â chymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd, fod ei ddyfodol yn y fantol ac fe fydd y canlyniadau hyn yn pentyrru’r pwysau unwaith eto.
“Mae ansicrwydd enfawr am ei ddyfodol e,” meddai Dylan Ebenezer.
“Maen nhw wedi cael sawl cyfle i newid y rheolwr, a dydyn nhw ddim wedi cymryd y cyfleoedd yna am sawl rheswm.
“Cwpan y Byd, fi’n credu bod hi’n sioc i lawer fod e wedi cadw ei swydd, achos doedd y perfformiadau ddim yn grêt.
“Gwlad Pwyl wedyn, roedd hi’n ddiddorol achos roedd pwysau mawr cyn i ni chwarae yn erbyn Croatia yn yr ymgyrch yna, a wnaeth sylwadau ddod ma’s yn y wasg a’r chwaraewyr wedi ymateb i sylwadau gan y Gymdeithas Bêl-droed, a wnaethon nhw ennill yn erbyn Croatia.
“Mae’r canlyniad yna fel tasai e wedi ei gadw fe yn ei swydd ond eto, o beidio â chyrraedd yr Ewros, roedd cyfle i symud ymlaen a gallen nhw fod wedi diolch i Page am ei waith.
“Ond yn fwy na hynny, fe wnaethon nhw ei gefnogi fe’n gyhoeddus, felly mae penderfyniad mawr gyda nhw i’w wneud nawr.
“Byddai’n anodd iawn cyfiawnhau rhoi cyfle arall iddo fe, a gwastraffu arall yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
“Os newid, mae angen newid yn gyflym a rhoi cyfle i’r rheolwr newydd fod yn barod ar gyfer ymgyrch Cwpan y Byd, felly gawn ni weld beth ddaw yn yr wythnosau nesaf.
“Mae’n anodd iawn ffeindio rhywun sy’n gefnogol [i Rob Page].
“Mae yna wahaniaeth rhwng ar-lein a’r terasau, ac rydych chi’n teimlo mai’r criw yn y gêm yw’r rhai sydd agosaf ati o ran pyls y cefnogwyr, ac maen nhw wedi cael digon, yn hollol amlwg.
“Mae’n teimlo fel dyddiau olaf Bobby Gould, sy’n annheg iawn achos roedd cyfnod Bobby Gould yn siambls, a does neb yn gallu dweud hynny am Page.
“Rydyn ni wedi bod i gystadlaethau mwya’r byd yn ystod ei gyfnod e.
“Ond y ffordd mae’r cefnogwyr wedi troi nawr, fi wedi clywed am rai oedd ddim yn rhy siomedig bo nhw yn cael cweir yn Slofacia os oedd e’n golygu bod Page yn colli’i swydd.
“Mae hi mor drist bo ni wedi cyrraedd y sefyllfa yna, ond dyna lle’r ydyn ni arni ar hyn o bryd.
“Mae’r disgwyliadau wedi cynyddu, ond eto dw i ddim yn rhy gyfforddus chwaith gydag ambell i sylw sy’n dod allan gan y tîm rheoli, gyda chwaraewyr yn dweud bod disgwyliadau wedi codi ac mae’n anodd cyrraedd y gemau yma.
“Rydyn ni wedi gwneud mor dda i godi statws y tîm dros y degawd a mwy diwethaf, byddai’n drueni taflu hwnna i gyd i ffwrdd achos mae’n gallu mynd yn gyflym.
“Wyth mlynedd yn ôl, roedden ni’n ennill yn erbyn Slofacia yn yr Ewros, a nawr yn colli o 4-0 ac yn eu gwylio nhw’n mynd bant i’r Ewros.
“Fi’n gwybod fod Bale wedi mynd – am golled! – ond dydyn ni ddim yn cael y gorau allan o’r garfan.
“Efallai fyddai [rheolwr Manchester City, Pep] Guardiola ddim yn cael y gorau allan ohonyn nhw, efallai mai dyna ni a dyna’n safon ni.”
Ble nesaf?
Er bod Rob Page yn parhau’n rheolwr Cymru, am y tro o leiaf, i ble fyddai’r Gymdeithas Bêl-droed yn troi nesaf pe baen nhw’n teimlo ei bod hi ar ben ar y rheolwr presennol?
“Mae pobol yn sôn am Osian [Roberts], ond wedyn mae e’n gyfforddus ei fyd yn yr Eidal,” meddai Dylan Ebenezer.
“Mae rhyw fath o unfinished business gyda fe a Chymru.
“Steve Cooper yw’r un amlwg, a byddai e’n ffit da, ond arian yw’r peth wedyn.
“Roedd e’n cael rhyw £2m y tymor gyda Nottingham Forest, ond dyw’r Gymdeithas Bêl-droed ddim yn talu’n agos i hynny.
“Mae yna sôn y byddai e’n fodlon cymryd llai os ydyn nhw’n gallu cwrdd yn y canol…
“Roedd e’n cael ei ganmol am ei dactegau, ac efallai y byddai e’n ffit da iawn.
“Efallai y byddai e’n ei ffansïo hi hefyd, yn gwybod fod ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd a bod hwnnw drosodd mewn cwpwl o fisoedd, ac ymgyrch Cwpan y Byd yn dechrau ym mis Mawrth.
“Gallai e ddweud y byddai’n rhoi cynnig arni am flwyddyn a gweld lle’r ydyn ni arni – byddai’n ddiddorol!
“Ond er tegwch i Rob Page, mae’n dal yn ei swydd felly mae’n anodd trafod gormod ar hynny hefyd.”