Mae adroddiadu mai Graham Potter, cyn-reolwr tîm pêl-droed Abertawe, yw’r ffefryn ar gyfer swydd rheolwr Caerlŷr.
Ond mae lle i gredu eu bod nhw hefyd yn ystyried Steve Cooper, y Cymro sydd hefyd yn un o gyn-reolwyr yr Elyrch ac sy’n siŵr o gael sylw pe bai Rob Page, rheolwr Cymru, yn gadael ei swydd dros yr haf.
Mae Caerlŷr yn chwilio am reolwr ar ôl i Enzo Maresca gael ei benodi’n rheolwr yn Chelsea, oedd wedi diswyddo Potter fis Ebrill y llynedd ar ôl llai na saith mis yn y swydd.
Roedd adroddiadau’n ddiweddar fod Brighton, un arall o hen glybiau Potter, yn awyddus i’w ddenu’n ôl atyn nhw, ac fe ddangosodd clwb Ajax yn yr Iseldiroedd ddiddordeb yn y Sais hefyd.
Mae lle i gredu bod Caerlŷr yn chwilio am reolwr blaengar, a byddai Steve Cooper yn addas ar eu cyfer nhw fel un sy’n cael ei ystyried yn dactegydd craff.