Mae adroddiadau y gallai’r Cymro Tom Lawrence ymuno â thîm pêl-droed Besiktas yn Nhwrci dros yr haf.

Bydd cytundeb y blaenwr yn dod i ben bryd hynny, ac mae lle i gredu y gallai ailymuno â Giovanni van Bronckhorst, ei hen reolwr yn Rangers oedd wedi ei ddenu i Ibrox o Derby yn 2022.

Ond gallai Besiktas wynebu cystadleuaeth gan Ipswich, un o’i hen glybiau lle bu’n Chwaraewr y Flwyddyn yn 2016-17, sydd newydd ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr.

Mae Sheffield United hefyd yn ei lygadu wrth iddyn nhw hefyd ddychwelyd i’r Uwch Gynghrair y tymor nesaf.