Mae Martyn Margetson, hyfforddwr gôl-geidwaid Clwb Pêl-droed Abertawe, wedi llofnodi cytundeb tair blynedd newydd gyda’r clwb.

Daw’r cyhoeddiad wrth i’r Cymro baratoi i weithio gyda gôl-geidwaid Lloegr yn Ewro 2024, ac yntau’n rhannu ei amser rhwng y ddwy swydd.

Dychwelodd at yr Elyrch y tymor diwethaf, ar ôl dwy flynedd gyda nhw rhwng 2019 a 2021.

Mae Luke Williams, rheolwr Abertawe, wedi canmol gwaith yr hyfforddwr, gan ddweud ei fod yn “adrodd cyfrolau” amdano fel hyfforddwr.

“Mae’n uchel ei barch yn y gamp, ac mae’r ffaith ei fod e’n hyfforddi yn ei bumed twrnament mawr ar hyn o bryd yn dyst i hynny,” meddai.

Ychwanega fod ei “brofiad helaeth yn gryn ased i’r clwb”.

Gyrfa

Mae Martyn Margetson yn hanu o Bort Talbot, ac fe ddechreuodd ei yrfa ar y cae gyda Manchester City ar ôl codi drwy’r rhengoedd ieuenctid.

Chwaraeodd e 60 o weithiau i’r tîm cyntaf, gan dreulio cyfnodau gyda Bristol Rovers, Bolton, Luton, Southend, Huddersfield a Chaerdydd.

Roedd yn hyfforddi’r Adar Gleision cyn ymddeol o fod yn chwaraewr, ac fe ddaeth ei ymddeoliad yn y pen draw yn 2007.

Enillodd ei unig gap dros Gymru yn erbyn Canada yn 2004, ac fe ymunodd â’r tîm hyfforddi cenedlaethol dan reolaeth Gary Speed yn 2011.

Bu’n aelod o dîm hyfforddi Chris Coleman wrth i Gymru gyrraedd rownd gyn-derfynol Ewro 2016, gan symud at Loegr ar ôl y twrnament, gan weithio dan reolaeth Sam Allardyce ac wedyn Gareth Southgate.

Yn ystod y cyfnod hwn, bu’n gweithio gyda chlybiau West Ham, Caerdydd, Crystal Palace, Everton ac Abertawe.

Bydd yn parhau i weithio gydag Abertawe a Lloegr ar yr un pryd.