Mae’n ymddangos bod cyfnod disglair o flaen Clwb Rygbi Merched y Bala, sydd newydd gael ei ailsefydlu.

Fe wnaethon nhw chwarae eu gêm gyntaf ar eu newydd wedd ddydd Sadwrn (Mehefin 8), gan guro’r Market Bosworth Lionesses o 53-5.

Roedd y gêm honno ddydd Sadwrn (Mehefin 8) yn “uchafbwynt blynyddoedd o waith caled”, yn ôl y clwb.

Ar eu cyfryngau cymdeithasol, mae’r cyn-gapten Lowri Blain yn canmol gwaith caled Euros Jones, Swyddog Rygbi a Hwb Gwylliaid Meirionydd.

Dywed yn y neges ei bod hi’n “braf gweld cynifer o gyn-ddisgyblion Ysgol Godre’r Berwyn a chyn-chwaraewyr y Gwylliaid yn chwarae i’r tîm yn eu gêm gyntaf yn ôl ar y cae.

“Does dim amheuaeth bod y tîm yma’n llawn o chwaraewyr profiadol o safon sydd ag awch ac angerdd i chwarae i’w clwb lleol,” meddai’r neges.

Edrych tua’r dyfodol

Mae sawl aelod o’r tîm wedi datblygu o dan arweiniad Euros Jones dros y deng mlynedd diwethaf, ac roedd y gêm ddydd Sadwrn yn brawf o ffrwyth ei lafur.

Un o’r chwaraewyr hynnyw yw Kate Davies, is-gapten y tîm sydd wedi ennill cap dros dîm dan 20 Cymru.

“Mae nifer ohonom wedi chwarae ers blynyddoedd ond mae’n braf gweld wynebau newydd yn dod i’r ymarferion,” meddai wrth golwg360.

“Mae’n grêt gweld nifer o ferched yn gwneud yn ymdrech i ddod bob wythnos.”

Saer lleol yn ei ugeiniau yw’r hyfforddwr Ceredig Siôn Puw, oedd yn chwarae i dîm cynta’r dynion cyn cael anaf i’w ben-glin a gorfod rhoi’r gorau i chwarae.

Aeth ati wedyn i hyfforddi’r merched.

“Mae Ceredig yn gwneud yr ymdrech bob wythnos, ac mae llawer o fechgyn o’r tîm cyntaf yn gwneud yr ymdrech hefyd i ddod bob nos Fawrth i helpu,” meddai Kate Davies wedyn, gan nodi ei bod hi wedi gweld cymaint o gefnogaeth i’r tîm ddydd Sadwrn, a’u bod nhw, “fel tîm, yn edrych ymlaen i weld beth sy’n digwydd nesa”.

Yr ymarferion cyntaf

Digon isel oedd eu niferoedd pan wnaethon nhw sefydlu’r tîm fis Medi’r llynedd, gyda dim ond chwech yn dod i’r ymarferion ar adegau.

Erbyn hyn, mae eu haelodau wedi tyfu – rhai o ochrau Llanrwst ac eraill o Rhuthun, oll yn teithio yno bob wythnos.

Mae’r garfan yn amrywio o ddechreuwyr pur i chwaraewyr profiadol.

Un sy’n rhan o’r garfan ydi Siwan Price, sy’n dweud bod “yr ymarferion yn gyffrous”.

Ond “daeth brwdfrydedd a nerfusrwydd ynghylch y gêm gyntaf”, meddai wrth golwg360.

“Roedd yn braf cael criw hollol random i chwerthin, ymarfer, colli gwynt a datblygu sgiliau â nhw.”

Yr elfen gymdeithasol ydi’r rheswm bod nifer o ferched wedi ymuno a’r tîm yn ogystal â chyfarfod merched eraill o’r ardal sy’n rhannu’r un ddiddordeb.

Cefnogaeth i’r gêm gyntaf

“Cawsom sioc enfawr ddydd Sadwrn yn dod allan o’r clwb rygbi ar gyfer y gêm, a gweld cannoedd o gefnogwyr yn ein gwylio,” meddai Siwan Price wedyn.

“Roedd gwirfoddolwyr yno yn paratoi lluniaeth a phaneidiau i ni fel tîm a’r cefnogwyr.

“Roedd hogiau’r ardal wedi paratoi’r cae a gosod y babell wen i gysgodi.

“Roedd Trefor, y ffotograffydd lleol, yno gyda’i gamera a Tony Parry yn ei hi-vis yn cael trefn ar y ceir wrth barcio!

“Mae’r gefnogaeth wedi bod yn anghredadwy, ac rydym oll fel tîm yn gwerthfawrogi’r wefr a deimlwyd ddydd Sadwrn diwethaf ac yn edrych ymlaen am y dyfodol fel tîm.

“Mae’r tîm yn cwrdd bob nos Fawrth am 7:30 yng Nghlwb Rygbi’r Bala, ac mae croeso i rywun ymuno â ni!”

Noddwyr

Aparito, cwmni data fferyllol gafodd ei ddatblygu gan Elin Haf, modryb y capten Sara Jones, ac Amdanat, siop ddillad ar Stryd Fawr y Bala, yw prif noddwyr y tîm.

Dywed Megan Llŷn, perchennog siop ddillad Amdanat, wrth golwg360 ei bod yn “bwysig iawn cael tîm rygbi merched yn y Bala”, a’i fod “yn gyfle i ferched ddod at ei gilydd i gymdeithasu, i gadw’n heini a chael y pleser o weithio gyda’i gilydd”.

“Braf hefyd ydi atgyfodi tîm sydd heb fod yn chwarae am gyhyd,” meddai.

Dywed mai “braint o’r mwyaf” yw noddi’r tîm “sydd ag ysbryd hyfryd yn perthyn iddo”.

“Roedd hyn yn glir iawn o’r bwrlwm greodd yn y Bala ddydd Sadwrn diwethaf,” meddai.