Gwlad yr Haf v Morgannwg: Crasfa i’r sir Gymreig

Gwlad yr Haf yn fuddugol o 108 o rediadau

Alun Rhys Chivers
gan Alun Rhys Chivers

Sgorfwrdd

Bydd tîm criced Morgannwg yn codi i’r pedwar uchaf yn eu grŵp yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast pe baen nhw’n curo Gwlad yr Haf yn Taunton heddiw (dydd Sul, Mehefin 16).

Maen nhw’n teithio yno ar ôl iddyn nhw fethu â chwarae yn erbyn Hampshire yng Nghaerdydd nos Iau (Mehefin 13) oherwydd y glaw.

Mae’r tîm cartref heddiw ar frig eu grŵp ar hyn o bryd.

Daw’r bowliwr cyflym Harry Podmore yn ôl i mewn i garfan Morgannwg yn lle James Harris, ac mae’r troellwr coes Mason Crane yn ôl ar ôl gorfod colli’r gêm yn erbyn Hampshire gan ei fod ar fenthyg ganddyn nhw.

‘Tîm mewn hwyliau da’

“Fel grŵp, rydyn ni’n edrych ymlaen at y daith i Taunton ddydd Sul, ac at gyfle i herio’r tîm sydd ar frig y tabl,” meddai Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg.

“Tra ei bod yn rhwystredig gwylio’r glaw yn cwympo ddydd Iau… mae’r tîm mewn lle da o ran perfformiadau a hwyliau.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at nifer sylweddol o’n cefnogwyr yn teithio brynhawn dydd Sul i Taunton i wylio’r gêm am 3 o’r gloch.”

Carfan Gwlad yr Haf: W Smeed, T Banton, T Kohler-Cadmore, T Abell, S Dickson, J Rew, L Gregory, B Green, K Aldridge, C Overton, R van der Merwe, J Davey, J Ball, R Meredith

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), E Byrom, S Northeast, C Ingram, M Labuschagne, C Cooke, D Douthwaite, T Bevan, W Smale, T van der Gugten, J McIlroy, B Kellaway, A Gorvin, H Podmore, M Crane

18:29

Gyda llaw, mae’r canlyniad yn golygu bod Morgannwg yn seithfed yn y tabl.

Byddan nhw’n croesawu Swydd Gaerloyw i Gaerdydd nos Iau, cyn teithio i’r Oval i herio Surrey nos Wener.

18:11

“Sioc” oedd disgrifiad Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg o’r canlyniad wrth siarad â golwg360.

“Doedd e’n sicr ddim yn rhan o’n cynlluniau ni, y ffordd rydyn ni wedi bod yn ymarfer nac yn chwarae, felly mae yna dipyn o loes yn yr ystafell newid.

“Mae’r llain yn dda ac mae’n gae addas ar gyfer sgôr uchel, ond roedden ni’n hapus i fatio neu i fowlio, a bod yn onest. Doedd hi ddim yn hanfodol galw’n gywir.

“Roedd hi’n ymdrech dda i’w cyfyngu nhw i lai na 200, ac fe gawson ni effaith o ran ein bowlio a’n maesu.

“Ond dw i’n meddwl ein bod ni wedi colli tric ar ôl eu cael nhw saith [wiced] i lawr yn hwyr yn y batiad.

“Gallen ni fod wedi bod yn fwy ymosodol yn yr unfed belawd ar bymtheg a mynd amdani, ond ar y cyfan rydyn ni’n hyderus fel arfer o gwrso’r fath nod.”

17:32

85 i gyd allan, ail sgôr isaf erioed Morgannwg mewn gemau ugain pelawd.

Sgorion nhw 44 yn erbyn Surrey yn 2019.

17:29

WICED!

Jamie McIlroy wedi’i fowlio gan van der Merwe. Dwy wiced mewn dwy belen, a Morgannwg wedi colli o 108 rhediad.

Bydd y daith adre’n un hir i Forgannwg…

17:28

WICED!

Mason Crane wedi’i stympio gan Tom Banton oddi ar fowlio Roelof van der Merwe.

Morgannwg 85 am naw ar ôl 13.1 pelawd.

17:23

WICED!

Chris Cooke wedi’i ddal ar y ffin gan Ben Green oddi ar fowlio Ball am 16.

Morgannwg 71 am wyth.

17:21

WICED!

Lewis Gregory wedi dal Timm van der Gugten oddi ar ymyl ei fat. Wiced i Jake Ball.

Morgannwg 66 am saith ar ôl 11.2 pelawd.

17:15

WICED!

Dan Douthwaite wedi’i ddal gan Lewis Gregory oddi ar ei fowlio’i hun. Un wiced i fynd i dorri’r record a chyrraedd brig y rhestr wicedi i Wlad yr Haf mewn gemau ugain pelawd.

Morgannwg 59 am chwech oddi ar 10.1 pelawd.

17:08

WICED!

Ergyd wael gan Sam Northeast, yn tynnu Gregory at Jake Ball ar ymyl y cylch.

O ddrwg i waeth i Forgannwg, sydd bellach yn 51 am bump ar ôl 8.2 pelawd. Dan Douthwaite yw’r batiwr newydd.

17:04

WICED!

Colin Ingram wedi’i ddal yn torri’r bêl at Sean Dickson oddi ar fowlio Craig Overton.

Morgannwg mewn dyfroedd dyfnion. 43 am bedair ar ôl 7.3 pelawd.