Fe wnaeth nifer o gricedwyr Morgannwg serennu yn eu buddugoliaeth ugain pelawd gyntaf erioed dros Middlesex yn Lord’s nos Iau (Mehefin 6).

Tarodd Sam Northeast 67, a Kiran Carlson 54 oddi ar 21 pelen wrth i’r sir Gymreig gwrso 174 yn llwyddiannus gyda thair wiced yn weddill.

Cipiodd Timm van der Gugten dair wiced mewn pelawd ddi-sgôr, ac roedd tair wiced hefyd i Mason Crane a dwy i Andy Gorvin.

Dechreuodd Middlesex yn gadarn gyda phartneriaeth o 108 rhwng Stevie Eskinazi (48) a Martin Andersson (57).

Ond collodd y Saeson eu ffordd wrth golli wicedi wedyn, ac roedden nhw i gyd allan am 173.

Cwrso

Dechreuodd batiad Morgannwg yn y modd gwaethaf posib, wrth i Eddie Byrom gael ei ddal yn y slip oddi ar y belen gyntaf.

Ond cyrhaeddodd y sir Gymreig 50 o fewn pum pelawd yn y cyfnod clatsio, ac aeth Carlson yn ei flaen i’w hanner canred oddi ar 21 pelen.

Cyrhaeddodd Northeast ei hanner canred yntau wrth i Colin Ingram gael ei fowlio gan Josh de Caires.

Collodd Northeast a Chris Cooke eu wicedi cyn diwedd yr ornest, ond roedd y fuddugoliaeth yn un ddigon hawdd yn y pen draw.

Bydd Morgannwg yn teithio’n syth o Lord’s i wynebu Essex yn Chelmsford nos Wener (Mehefin 7).