Mae tîm criced Morgannwg wedi curo Swydd Derby o fatiad a 24 o rediadau yn ail adran y Bencampwriaeth yng Nghaerdydd.
Roedd angen saith wiced arnyn nhw ar y diwrnod olaf, ar ôl i’r ymwelwyr ddechrau ar 123 am dair yn eu hail fatiad wrth geisio gorfodi Morgannwg i fatio eto.
Tarodd Leus du Plooy 66 wrth i’r Saeson frwydro’n galed i osgoi colli, ond fe gafodd ei fowlio gan Michael Hogan i adael yr ymwelwyr yn 194 am bedair, ac roedden nhw’n 197 am bump pan darodd Ajaz Patel goes Harry Came o flaen y wiced am ddau.
Dechreuodd Swydd Derby sesiwn y prynhawn ar 212 am bump, ar ei hôl hi o 85 o rediadau, a doedd hi ddim yn hir cyn i Forgannwg gipio chweched wiced, wrth i James Harris waredu Anuj Dal, a gafodd ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke am 25.
Aeth 233 am chwech yn 234 am wyth wrth i Andrew Salter daro coes Alex Thomson o flaen y wiced a James Harris yn bowlio Wayne Madsen am 77.
Cipiodd Michael Hogan ei wiced olaf erioed yng Nghaerdydd pan gafodd Sam Conners ei ddal ar ochr y goes gan Timm van der Gugten, a hwnnw wedyn yn cipio’r wiced olaf wrth i Ben Aitchison gael ei ddal gan Cooke, a Swydd Derby i gyd allan am 273.
Roedd y canlyniad wedi codi Morgannwg i’r ail safle ar 200 o bwyntiau ond gyda Middlesex ar fin curo Swydd Gaerlŷr, roedd hi’n debygol mai dechrau’r gêm olaf yn y trydydd safle fyddai’r sir Gymreig.
Ac felly fydd hi, gyda Morgannwg ar 200 o bwyntiau a Middlesex ar 209, gyda 24 o bwyntiau ar gael yn y gêm olaf un.
Taith i Hove i wynebu Sussex sydd gan Forgannwg yr wythnos nesaf i orffen y tymor, tra bydd Middlesex yn teithio i Swydd Gaerwrangon.