Bydd y Cymro Osian Pryce o Fachynlleth yn anelu i ymestyn ei fantais wrth i Bencampwriaeth Ralio Prydain fynd i Swydd Efrog heddiw (dydd Gwener, Medi 23).

Mae’r gyrrwr 29 oed yn cael tymor i’w gofio hyd yn hyn, ac yntau wedi cipio pwyntiau llawn mewn tair rownd, gan gynnwys Rali Ceredigion dafliad carreg o’i gartref.

Daeth e’n ail hefyd yn Rali Coedwig Grampian ac oni bai am fethu â sgorio pwyntiau yn Rali Jim Clark, byddai’r teitl wedi bod o fewn ei afael erbyn hyn.

Mae e saith pwynt ar y blaen i’r Gwyddel Keith Cronin gyda dwy rownd yn weddill, ac mae e eisoes wedi gollwng un o’i ddau sgôr a’i jocar heb ei ddefnyddio eto.

Mae ganddo fe record dda yn ras Swydd Efrog, ac yntau wedi ei hennill hi yn 2013 ac wedi gorffen yn ail ddwywaith, yn 2014 a 2021, yr eildro o ddim ond 0.8 eiliad.

Mae ei gyd-yrrwr Noel Sullivan ar frig y gynghrair cyd-yrwyr.

Hyder

“Dw i wastad wedi mwynhau cystadlu yn fforestydd Swydd Efrog, a phob amser wedi mynd yn dda yn y Trackrod, felly mae hynny’n rhoi tipyn o hyder i fi wrth fynd i mewn yno ar frig Pencampwriaeth Ralio Prydain,” meddai Osian Pryce.

“Mae’n wych fod y digwyddiad yn cychwyn yn y nos eto oherwydd mae gyrru ar gyflymder drwy goedwig yn rywbeth dydych chi ddim yn ei wneud yn aml iawn y dyddiau hyn, ac roedd hi’n her roeddwn i bob amser yn edrych ymlaen ati yn Rali GB Cymru.

“Wedi dweud hynny, ges i siambls braidd wrth gychwyn y llynedd – gan saethu dros y T-junction yn fforest Dalby a methu tanio’r injan wrth fynd yn ôl oddi ar y banc.

“Collon ni ryw ugain eiliad, ond roedden ni’n hapus efo’n cyflymdra ar ôl hynny, ac fe wnaethon ni adennill bron yr holl amser gollon ni erbyn diwedd y digwyddiad – er bod y camgymeriad bach yna wedi costio’r fuddugoliaeth i ni yn y pen draw.

“Fydd dim lle i wneud camgymeriad y tro hwn.

“Rydyn ni’n gwybod y gallai canlyniad da arall fod yn hanfodol i’n brwydr am deitl Pencampwriaeth Ralio Prydain, a rhaid i bopeth fod yn gyflym ac yn fanwl gywir.

“Rydyn ni wedi cyflawni hynny sawl gwaith eleni, a byddwn ni’n canolbwyntio’n llwyr nawr ar wneud hynny eto yn Swydd Efrog.”

James Williams yn anelu am y podiwm

Yn y cyfamser, bydd James Williams yn anelu i orffen ar y podiwm mewn ras ar y graean am y tro cyntaf y tymor hwn.

Bu’n dymor o ddau hanner i’r Cymro a’i gyd-yrrwr Dai Roberts, sydd wedi cyrraedd y podiwm dair gwaith eleni, gan gynnwys eu perfformiad gorau o orffen yn ail yn Rali Ceredigion.

Ond ar y graean, doedden nhw ddim wedi gorffen un ras ac roedden nhw’n bedwerydd dro arall.

Y rali

Mae’r ras eleni’n ddigon tebyg i’r ras y llynedd.

Mae oddeutu 57 milltir o drac i rasio arno yng nghoedwigoedd Gogledd Swydd Efrog, a 45 milltir yn drac sengl.

Mae’r car cyntaf yn gadael Filey am 7.01 heno (nos Wener, Medi 23) ac yn mynd am Goedwig Dalby.

Bydd y rali’n ailddechrau bore fory (dydd Sadwrn, Medi 24) ger Pickering, gyda chymalau yn ystod y dydd yng nghoedwigoedd Dalby, Langdale a Cropton, cyn y diweddglo mawr ar y traeth yn Filey am oddeutu 3 o’r gloch.