Mae Rob Page, rheolwr tîm pêl-droed dynion Cymru, yn dweud bod ganddyn nhw “gêm derfynol” yn erbyn Gwlad Pwyl, ar ôl iddyn nhw golli o 2-1 yn erbyn Gwlad Belg ym Mrwsel nos Iau (Medi 22).

Mae’r canlyniad yn eu gadael nhw’n brwydro i aros yn eu cynghrair yng Ngynghrair y Cenhedloedd, ac yn gorfod ennill yn erbyn Gwlad Pwyl nos Sul.

Kevin De Bruyne oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm, wrth iddo sgorio un gôl a chreu’r llall.

Mae Cymru’n dal heb fuddugoliaeth yn y gystadleuaeth, ond bydden nhw wedi mynd i mewn i’r gêm yn llawn gobaith ar ôl gêm gyfartal yn erbyn tîm Roberto Martinez y tro diwethaf yng Nghaerdydd ym mis Mehefin.

Aeth y Belgiaid ar y blaen o fewn 11 munud, wrth i De Bruyne rwydo’n isel â’i droed chwith.

Cawson nhw gyfleoedd pellach wrth i De Bruyne daro’r postyn ac wrth i Eden Hazard ergydio heibio’r postyn, ac fe wnaethon nhw ddyblu eu mantais ar ôl 38 munud pan greodd De Bruyne gôl i Michy Batshuayi.

Cafodd Cymru gyfle hwyr yn yr hanner cyntaf wrth i Thibaut Courtois orfod arbed ymdrech oddi ar ben Ethan Ampadu, a bu’n rhaid i Wayne Hennessey atal De Bruyne ym mhen draw’r cae hefyd.

Funudau wedi’r egwyl, arweiniodd rhediad cryf Brennan Johnson i lawr yr asgell chwith at greu lle i Kieffer Moore, ac fe wnaeth y croesiad ddarganfod yr ymosodwr i’w gwneud hi’n 2-1.

Daeth Gareth Bale i’r cae yn eilydd, a chafodd e gyfle yn yr ail hanner i benio ail gôl Cymru ar ôl cyfuno’n gelfydd â Dan James.

Parhau i bwyso wnaeth Cymru, ond arhosodd amddiffyn Gwlad Belg yn gadarn.

Ar ôl 78 munud, daeth bloedd am gic o’r smotyn gan Wlad Belg ar ôl i Joe Morrell daclo De Bruyne, a chafodd ei rhoi gan y dyfarnwr cyn i VAR ymyrryd a gwyrdroi’r penderfyniad.

Daeth Neco Williams a Brennan Johnson yn agos at ddarganfod y rhwyd, ond doedd hi ddim am fod i dîm Rob Page yn y pen draw.

Newidiadau

“Mae hi’n gêm derfynol,” meddai Rob Page am yr ornest yn erbyn Gwlad Pwyl nos Sul.

“Anghofiwch am Gwpan y Byd, hon yw’r gêm rydyn ni eisiau ei hennill nos Sul.

“Rhaid i ni adfer y bois.

“Bydd newidiadau’n cael eu gwneud, a byddwn ni’n mynd a rhoi tîm allan i ennill y gêm.”