Cipiodd Ajaz Patel, y troellwr llaw chwith o Seland Newydd, bum wiced mewn batiad i Forgannwg am y tro cyntaf wrth iddyn nhw glosio at fuddugoliaeth dros Swydd Derby yn y ras am ddyrchafiad i Adran Gynta’r Bencampwriaeth.

Mae angen saith wiced ar y sir Gymreig ar y diwrnod olaf fory (dydd Gwener, Medi 23) i roi pwysau ar Middlesex, sydd hefyd yn mynd am ddyrchafiad.

Cymerodd hi ddwy sesiwn i Forgannwg gipio pum wiced olaf batiad cyntaf Swydd Derby, gydag Anuj Dal yn sgorio 92 wrth i Patel gipio dau ddaliad hefyd wrth i’r sir Gymreig orfodi’r Saeson i ganlyn ymlaen, ac roedden nhw’n 123 am dair yn eu hail fatiad.

Manylion

Batiodd Harry Came ac Anuj Dal yn gadarn yn ystod sesiwn y bore, wrth i Forgannwg fethu â chipio’r un wiced ar lain araf oedd yn cynnig rhywfaint o gymorth i’r bowlwyr.

Bu’n rhaid i Forgannwg aros bron i dair awr i gipio’u wiced gyntaf, wrth i Patel ddal Came oddi ar fowlio Timm van der Gugten am 64 i roi terfyn ar bartneriaeth o 145.

Cipiodd Patel wiced Alex Thomson cyn i van der Gugten waredu Dal wyth rhediad yn brin o’i ganred.

Gorffennodd Patel gyda phum wiced am 68, gyda van der Gugten yn cipio tair am 37.

Roedd Swydd Derby ar ei hôl hi o 297 o rediadau ar ddiwedd y batiad cyntaf wrth orfod canlyn ymlaen, gan adael pedair sesiwn i fowlio’r ymwelwyr allan.

Michael Hogan oedd wedi arwain Morgannwg allan i’r cae wrth iddo fe chwarae yn ei gêm olaf yng Nghaerdydd cyn ymddeol, a doedd hi ddim yn hir cyn i Swydd Derby golli eu wiced gyntaf, wrth i Luis Reece gael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio James Harris.

Cafodd Brooke Guest ei fowlio gan van der Gugten, cyn i Billy Godleman gael ei ollwng gan David Lloyd yn y slip ar 38, ond roedd e allan am 40 yn y pen draw pan gafodd ei daro ar ei goes o flaen y wiced gan van der Gugten.