Mae Joe Rodon yn dweud bod yn rhaid iddo adael Spurs ac Uwch Gynghrair Lloegr er mwyn bachu ar ei gyfle gyda Chymru yng Nghwpan y Byd.

Bydd amddiffynnwr Cymru, fydd yn ganolbwynt i amddiffyn ei wlad yn y twrnament yn Qatar fis Tachwedd, yn chwarae ei gêm ryngwladol gyntaf heno (nos Iau, Medi 22) ers iddo fe symud.

Gadawodd Rodon glwb Spurs yn ystod ffenest drosglwyddo mis Awst er mwyn ymuno ag FC Rennes ar fenthyg, ond fe fydd e’n gwisgo crys Cymru wrth ennill cap rhif 29 yn erbyn Gwlad Belg ym Mrwsel heno mewn gêm yng Nghynghrair y Cenhedloedd sy’n cael ei darlledu ar S4C.

Chwaraeodd y chwaraewr 24 oed fwy o weithiau dros ei wlad na’i glwb y llynedd, a doedd fawr o obaith y byddai’r sefyllfa honno’n newid o dan y rheolwr Antonio Conte.

Felly fe symudodd Rodon at glwb Rennes yn Ligue 1 am weddill y tymor, ac mae’n cyfaddef fod yr angen i chwarae’n rheolaidd yn uchel ar ei restr o flaenoriaethau gyda Chwpan y Byd ar y gorwel.

“Does yna’r un chwaraewyr sydd eisiau mynd i Gwpan y Byd ac yntau wedi chwarae prin funud o bêl-droed,” meddai Rodon, oedd wedi chwarae tair gwaith yn unig yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor diwethaf, a dim ond naw gwaith dros ei glwb ar draws yr holl gystadlaethau.

“Fel mae pawb yn ymwybodol, dw i ddim wedi chwarae rhyw lawer dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Dw i’n credu ei bod hi’n bwysig iawn i fi a fy natblygiad i fod yn agored a chael fy rhoi mewn sefyllfa lle dw i’n chwarae llawer o gemau.

“Bydd hynny’n fy ngwella i ac yn rhoi mwy o hyder i fi.

“Alla i ddim ond teimlo’n ddiolchgar am y cyfle dw i wedi’i gael yn Rennes.

“Fe wna i geisio gwneud cyfiawnder â fi fy hun drwy chwarae bob wythnos.”

Chwarae’n rheolaidd

Mae Joe Rodon eisoes wedi chwarae mewn naw allan o ddeg gêm gyntaf Rennes y tymor hwn, gan gynnwys gemau yng Nghynghrair Europa yn erbyn AEK Larnaca a Fenerbahce.

Mae’n credu y bydd y cysondeb yn ei baratoi’n dda ar gyfer y Belgiaid amldalentog nos Iau, yn ogystal â phan fydd Cymru’n ymddangos yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 64 o flynyddoedd yn Qatar.

“Mae’n bwysig iawn i chwaraewyr fod yn chwarae bob wythnos drwy gydol y tymor, oherwydd mae’n eich rhoi chi mewn sefyllfa dda gyda’r tîm cenedlaethol,” meddai cyn-seren Abertawe a adawodd ddwy flynedd yn ôl am £11m.

“Rydych chi’n dod i mewn i’r garfan genedlaethol wedi chwarae llawer o gemau. Mae’n dod yn fwy naturiol, ac mae eich corff yn addasu.

“Dw i wedi bod wrth fy modd yn chwarae mwy o gemau yn arwain i fyny at y gwersyll yma, ac mae’n rywbeth dw i wedi gweld ei eisiau.

“Dw i eisiau parhau i wneud hynny tan fy mod i’n gorffen.”

Wrth symud dramor – er am dymor yn unig – mae Joe Rodon yn dilyn yn ôl traed ei gyd-chwaraewyr Cymru, Gareth Bale, Aaron Ramsey ac Ethan Ampadu.

“Dw i’n siarad â nhw dipyn ac maen nhw’n rhoi cyngor ac arweiniad i fi ar hyd y ffordd. Dw i’n ddiolchgar am hynny.

“Galla i bob amser alw arnyn nhw oherwydd maen nhw’n chwaraewyr proffesiynol o’r radd flaenaf ac yn chwaraewyr hŷn arbennig. Alla i ddim ond edrych i fyny atyn nhw, a gall pa bynnag gyngor sydd ganddyn nhw i fi ddim ond fy elwa.”

Absenoldebau

Mae Gareth Bale yn debygol o fod ar y fainc yn erbyn y Belgiaid, ac yntau wedi hedfan o Los Angeles fore dydd Mawrth, tra bod Aaron Ramsey allan ag anaf i linyn y gâr.

Hefyd yn absennol oherwydd anafiadau mae Joe Allen, Ben Davies a Harry Wilson, a bydd y rheolwr Rob Page yn awyddus i osgoi rhagor o anafiadau gyda Chwpan y Byd wythnosau yn unig i ffwrdd.

Ond mae’r gêm hon yn un arwyddocaol hefyd, wrth i Gymru geisio osgoi gostwng o’r lefel uchaf ar gyfer Cynghrair y Cenhedloedd.

Hyd yn hyn, dim ond un pwynt sydd ganddyn nhw o’u pedair gêm, ac mae Joe Rodon yn cyfaddef y bydd hi’n her anodd yn erbyn yr ail ddetholyn yn y byd.

Ar ôl y gêm hon, bydd Cymru’n herio Gwlad Pwyl ddydd Sul (Medi 25).

“Dyma’r gwersyll olaf cyn Cwpan y Byd ac, wrth gwrs, mae gennym ni ddwy gêm anodd a phwysig i’w chwarae,” meddai.

“Allwn ni ddim wir edrych y tu hwnt i hynny, rydyn ni’n gwybod fod gwaith i’w wneud.

“Y cyfan allwn ni ei wneud yw edrych tuag at ddydd Iau, ac yna ddydd Sul, ac yna edrych ymlaen at Gwpan y Byd.”

Y gêm ddiwethaf

Dros y degawd diwethaf, mae Cymru wedi herio Gwlad Belg wyth gwaith, ac wedi cael dwy fuddugoliaeth, pedair gêm gyfartal a dim ond dwy golled yn erbyn gwlad a fu ymhlith y goreuon yn ystod y degawd hwnnw.

Y tro diwethaf iddyn nhw gyfarfod ym mis Mehefin, sicrhaodd Cymru gêm gyfartal 1-1 yng Nghaerdydd, sef eu hunig bwynt yn y twrnament hyd yn hyn.

“Dros y blynyddoedd, mae’r tîm cenedlaethol hwn wedi cymryd camau breision,” meddai Joe Rodon.

“Rydyn ni eisiau bod yn chwarae yn erbyn y timau gorau yn y byd ym mhob gwersyll.

“Mae hyn yn rywbeth mae’r giaffar wedi bod eisiau ei greu, sef meddylfryd o ennill ac mae’n rywbeth rydyn ni eisiau bod yn rhan ohono fe.

“Mae dwy gêm anodd i’w chwarae nawr, ac rydyn ni’n mynd i roi o’n gorau a gweld lle bydd hynny’n mynd â ni.”

Bydd S4C yn dangos gêm Gwlad Belg yn erbyn Cymru’n fyw o 7.25yh heno (nos Iau, Medi 22), a Chymru yn erbyn Gwlad Pwyl o 7.15yh nos Sul (Medi 25).