David Lloyd, capten tîm criced Morgannwg, sydd â’r sgôr unigol gorau erioed gan fatiwr i’r sir ar gae Gerddi Sophia yng Nghaerdydd erbyn hyn – ac yn wir, yn unman yng Nghymru hefyd.

Fe gurodd e ymdrechion Hugh Morris, prif weithredwr presennol y sir, oedd wedi sgorio 233 heb fod allan yn erbyn Swydd Warwick yng Nghaerdydd yn 1997, y tymor pan enillodd Morgannwg Bencampwriaeth y Siroedd.

Ac fe aeth e heibio sgôr gorau erioed Steve James, 309 heb fod allan, yn erbyn Sussex yn Llandrillo yn Rhos yn 2000 – record a gafodd ei thorri gan Sam Northeast yn gynharach y tymor hwn, wrth iddo fe sgorio 410 heb fod allan yn erbyn Swydd Gaerlyr.

Un garreg filltir ar ôl y llall

Ar ôl dechrau’r ail ddiwrnod ar 380 am dair, doedd hi ddim yn hir cyn i Forgannwg golli wicedi yn ystod sesiwn y bore.

Tarodd Sam Conners goes Billy Root o flaen y wiced am 79 i adael Morgannwg yn 390 am bedair, cyn i Chris Cooke gael ei ddal gan Alex Thomson wrth yrru Anuj Dal ar ochr y goes, gyda Morgannwg yn 399 am bump cyn iddyn nhw gipio’r pwynt batio olaf.

Aeth David Lloyd yn ei flaen i gyrraedd 250 oddi ar 338 o belenni, ar ôl taro 35 pedwar ac un chwech ac wrth i Forgannwg adeiladu digon o flaenoriaeth er mwyn sicrhau bod ganddyn nhw siawns o fowlio’r ymwelwyr allan ddwywaith yn yr amser oedd yn weddill.

Erbyn iddo fe gyrraedd 300, roedd e wedi taro 40 pedwar a phedwar chwech, ac ar ôl sicrhau’r sgôr gorau erioed i Forgannwg yng Nghaerdydd, caeodd Morgannwg eu batiad cyntaf ar 550 am bump.

Batiad cyntaf Swydd Derby

Roedd batwyr Swydd Derby dan bwysau o’r dechrau’n deg, ac fe wnaeth Morgannwg fanteisio yn y bedwaredd pelawd, wrth i’r capten Billy Godleman gael ei ddal yn y slip gan Ajaz Patel oddi ar fowlio Michael Hogan i adael ei dîm yn bedwar am un.

Cipiodd Patel ddwy wiced mewn dwy belen yn y bymthegfed pelawd, wrth daro coes Brooke Guest o flaen y wiced cyn i Wayne Madsen gael ei ddal gan Lloyd yn y slip i adael ei dîm yn 37 am dair.

Roedden nhw’n 50 am bedair yn fuan wedyn, wrth i Leus du Plooy gael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Timm van der Gugten, tra bod Luis Reece ben draw’r llain wedi cyrraedd ei hanner canred wrth geisio sefydlogi’r batiad.

Ond buan y dychwelodd hwnnw i’r pafiliwn hefyd ar ôl te, wedi’i ddal gan Cooke oddi ar fowlio Andrew Salter am 56, a’r ymwelwyr erbyn hynny yn 75 am bump ac yn wynebu’r posibilrwydd cryf o orfod canlyn ymlaen.

Ychwanegodd Harry Came ac Anuj Dal 60 am y chweched wiced ar ddiwedd y dydd, ond mae’r Saeson yn wynebu cryn her er mwyn osgoi colli’r ornest.

David Lloyd yn sgorio canred dwbwl yn erbyn Swydd Derby

Canred dwbwl y capten David Lloyd yn rhoi Morgannwg mewn sefyllfa gref yn erbyn Swydd Derby

Ar ddiwedd y diwrnod cyntaf yng Nghaerdydd, mae’r sir Gymreig yn 380 am dair

Morgannwg yn croesawu Swydd Derby yn y ras am ddyrchafiad

Mae’n debygol fod rhaid i Forgannwg ennill y ddwy gêm sy’n weddill er mwyn bod â gobaith o godi i Adran Gynta’r Bencampwriaeth