Sgoriodd David Lloyd, capten tîm criced Morgannwg, ganred dwbwl a’i sgôr dosbarth cyntaf gorau erioed i roi ei dîm mewn sefyllfa gref ar ddiwrnod cynta’u gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Derby yng Nghaerdydd, wrth iddyn nhw gwrso dyrchafiad i’r Adran Gyntaf.

Ar ddiwedd y dydd, roedden nhw’n 380 am dair, gyda David Lloyd heb fod allan ar 203 a Billy Root yn dal wrth y llain ar 77, a’u partneriaeth yn werth 197.

Daeth Morgannwg i mewn i’r ornest yn gwybod fod yn rhaid iddyn nhw ennill hon a’r gêm nesaf, a gobeithio bod canlyniadau’r gemau eraill yn mynd o’u plaid nhw.

Ond cawson nhw’r dechrau gwaethaf posib.

Gyda Shubman Gill yn tynnu’n ôl oherwydd salwch, daeth cyfle i’r batiwr ifanc Tom Bevan chwarae mewn gêm dosbarth cyntaf am y tro cyntaf, a doedd hi ddim yn hir cyn iddo fe orfod dod i’r llain ar ôl i Eddie Byrom gael ei ddal gan y wicedwr Brooke Guest oddi ar fowlio Anuj Dal i adael Morgannwg yn 31 am un.

Batiodd Bevan a’r capten David Lloyd yn bwyllog wrth ailadeiladu’r batiad ar ôl colli’r wiced, ac fe aeth eu partneriaeth y tu hwnt i 50 yn fuan cyn cinio, wrth i Lloyd arwain y ffordd wrth gyrraedd ei hanner canred ar drothwy’r egwyl, gyda Morgannwg yn gadael y cae ar 99 am un.

Sesiwn y prynhawn

Ar ôl cinio, daeth Bevan yntau o fewn dau rediad i’w hanner canred cyntaf mewn gemau dosbarth cyntaf, cyn ergydio i’r awyr yn ymosodol a chael ei ddal gan yr eilydd o faeswr Nafis Shaikh oddi ar fowlio Alex Thomson, a Morgannwg erbyn hynny’n 148 am ddwy ac yn edrych yn ddigon cyfforddus ar ôl partneriaeth o 117 cyn i Sam Northeast ymuno â’i gapten wrth y llain.

22 yn unig sgoriodd hwnnw cyn cael ei fowlio gan Luis Reece, a’r sgôr erbyn hynny’n 183 am dair.

Ond wrth i Billy Root ymuno â Lloyd, cipiodd Morgannwg eu pwynt batio cyntaf cyn i’r capten gyrraedd ei ganred cynta’r tymor hwn ar ôl taro 14 pedwar ac un chwech, a’i dîm yn 228 am dair erbyn amser te.

David Lloyd v Swydd Derby

Y sesiwn olaf

Daeth carreg filltir arall ar 122 pan gurodd y gogleddwr David Lloyd ei sgôr gorau erioed mewn gemau dosbarth cyntaf, ac un arall wrth i’w dîm ennill ail bwynt batio wrth gyrraedd 250 am dair, ac fe aeth yn ei flaen yn fuan wedyn i gyrraedd 150 ar ôl taro 22 pedwar.

Cipiodd Morgannwg drydydd pwynt batio wrth gyrraedd 300 cyn i’r ymwelwyr gymryd y bêl newydd, a daeth carreg filltir arall wrth i Billy Root gyrraedd ei hanner canred oddi ar 94 o belenni, gan daro chwe phedwar, wrth barhau i fod yn amyneddgar wrth gefnogi Lloyd ben draw’r llain.

Daeth pedwerydd pwynt batio wrth iddyn nhw gyrraedd 350 am dair, gyda Lloyd yn closio at ei ganred dwbwl, ac fe ddaeth y garreg filltir honno ym mhelawdau ola’r dydd oddi ar 265 o belenni, ar ôl taro 30 pedwar ac un chwech.

Sgorfwrdd:

Morgannwg yn croesawu Swydd Derby yn y ras am ddyrchafiad

Mae’n debygol fod rhaid i Forgannwg ennill y ddwy gêm sy’n weddill er mwyn bod â gobaith o godi i Adran Gynta’r Bencampwriaeth