Wrth i dîm merched Cymru baratoi ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd, mae S4C wedi cyhoeddi eu bod nhw am ddarlledu pob un o’r gemau’n fyw yn ystod y twrnament.

Bydd Ioan Cunningham, y prif hyfforddwr, a charfan Cymru’n teithio i Seland Newydd ym mis Hydref, lle byddan nhw’n herio Seland Newydd, Awstralia a’r Alban yng Ngrŵp A.

Gyda phob gêm yn cael ei chwarae yn ystod oriau mân y bore yng Nghymru, bydd S4C yn dangos darllediadau byw ar-lein o bob gêm ar S4C Clic a thudalen YouTube y sianel.

Bydd cyfle arall i wylio’r gemau yn eu cyfanrwydd ddiwedd y prynhawn ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.

Cafodd y gystadleuaeth ei gohirio y llynedd yn sgil Covid, a bydd Cymru’n dechrau eu hymgyrch yn Whangarei ddydd Sul, Hydref 9.

Bydd y ddau dîm gorau o’r tri grŵp rhagbrofol yn symud ymlaen i rownd yr wyth olaf, ynghyd â’r ddau dîm yn y trydydd safle sydd â’r mwyaf o bwyntiau.

Pe bai Cymru’n cymhwyso o’u grŵp, bydd S4C yn parhau i ddarlledu pob gêm yn fyw.

‘Tyfu’r gefnogaeth’

“Rydym yn hapus iawn bod S4C am ddilyn ein taith yn Seland Newydd yn fyw a hefyd gydag ail-ddangosiadau ar deledu pan fydd timoedd menywod gartref yn paratoi ar gyfer gemau eu hunain yng nghlybiau Cymru,” meddai Siwan Lillicrap, capten Cymru.

“Rydyn ni’n hynod o falch i gynrychioli Cymru dros yr wythnosau nesaf ac mae’n bwysig iawn ein bod ni’n parhau i dyfu’r gefnogaeth rydym wedi mwynhau ers Chwe Gwlad Menywod TikTok yn gynharach eleni.”

‘Cyfnod cyffrous’

Heledd Anna fydd yn cyflwyno’r rhaglenni ar S4C, yng nghwmni sawl chwaraewr rhyngwladol Cymru fydd yno i ddadansoddi’r gemau.

“Mae hwn yn gyfnod hynod o gyffrous i’r tîm cenedlaethol ac mae Cwpan Rygbi’r Byd yn gyfle enfawr i’r tîm dangos bod ganddynt y gallu i wneud y cam nesaf a chystadlu gyda goreuon y byd,” meddai.

“Maen nhw mewn grŵp anodd, heb os, ond maen nhw wedi paratoi yn dda iawn ac rydym yn gobeithio y byddan nhw’n barod am yr her fydd yn ei wynebu.

“Byddwn ni’n dilyn carfan Cymru yn agos iawn ar S4C, gyda chyfweliadau a chynnwys ar sianelau @S4CRygbi cyn bob gêm, yn ogystal â’n darpariaeth estynedig ar ddiwrnod y gêm, felly ymunwch â ni am y daith gyfan.”

Gemau Cymru ar S4C:

Dydd Sul, Hydref 9 – Cymru v Yr Alban – y gic gyntaf am 5.45yb (amser Cymru)

Dydd Sul, Hydref 16 – Cymru v Seland Newydd – y gic gyntaf am 3.15yb (amser Cymru)

Dydd Sadwrn, Hydref 22 – Awstralia v Cymru – y gic gyntaf am 2.15yb (amser Cymru)

“Does neb yn disgwyl gwyrthiau”

Alun Rhys Chivers

“Maen nhw wedi bod yn gwneud rhyw gwrs antur eithafol lawr yn ne Cymru, maen nhw wedi bod yn reslo’i gilydd”