Mae tîm rygbi merched Cymru yn paratoi at Gwpan y Byd gyda gêm galed yn erbyn Canada…

Mae Catrin Heledd yn dweud nad oes “neb yn disgwyl gwyrthiau” wrth i dîm rygbi merched Cymru herio Canada yn Halifax yr wythnos hon, wrth i’w paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd yn Seland Newydd barhau. Bydd Catrin yn y stiwdio ar gyfer y gêm fydd yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C nos Sadwrn yma (Awst 27) gyda’r gic gyntaf am naw o’r gloch.