Mae Marie Jones o Ynys Môn yn falch o gael dangos ei gwaith gwau trawiadol a chrafog ym mro ei chynefin…

Pe baech chi’n sefyll yn ardal y bar yn Galeri Caernarfon, a chodi eich llygaid i fyny i’r nenfwd uchel, fe welech chi ddarn o waith celf trawiadol iawn yn hongian o’r to.