Mae Gareth Bale yn dweud ei fod ar y trywydd iawn i fod yn holliach ar gyfer Cwpan y Byd ym mis Tachwedd.

Dim ond dwywaith mae capten Cymru wedi dechrau gem yn ei 11 ymddangosiad i Los Angeles FC.

A dyw’r gŵr fydd yn cario gobeithion cefnogwyr Cymru gydag ef i Qatar heb chwarae 90 munud eto ers ymuno â’r clwb ym mis Gorffennaf.

Daw ei sylwadau ar drothwy gemau Cymru yn erbyn Gwlad Belg a Gwlad Pwyl yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Bydd dynion Rob Page yn herio Gwlad Belg oddi cartref nos Iau (Medi 22), gyda’r gic gyntaf am 7:45yh.

Yna bydd y garfan yn teithio’n ôl i Gaerdydd ar gyfer y gêm yn erbyn Gwlad Pwyl nos Sul (Medi 25), gyda’r gic gyntaf am 7:45yh.

Mae Cymru ar waelod grŵp A4 yng Nghynghrair y Cenhedloedd, gyda’u hunig bwynt o bedair gêm yn dod mewn gêm gyfartal 1-1 gartref i Wlad Belg ym mis Mehefin.

“Cymryd pob wythnos fel mae’n dod”

“Mae gennym ni gynllun yn LA, rydyn ni’n gwybod beth rydyn ni’n ei wneud,” meddai Gareth Bale mewn cynhadledd i’r wasg.

“Dydyn ni ddim yn gwneud gormod yn rhy gyflym.

“Mae pob pêl-droediwr eisiau chwarae cymaint ag y gallan nhw, ond rydyn ni’n bod yn glyfar ac yn adeiladu ar gyfer rhan bwysig olaf y tymor.

“Gobeithio y dylai hynny fy rhoi mewn siâp gwych ar gyfer Cwpan y Byd.

“Dw i’n meddwl y bydda i’n lot fwy ffit.

“Dwi heb chwarae 90 munud eto, sef yr hyn dw i’n adeiladu ato.

“Wrth gwrs fy mod i eisiau chwarae 90 munud gymaint ag y galla i, ond dwi’n deall bod angen i mi adeiladu at hynny.

“Y peth pwysicaf i fi yw cymryd pob wythnos fel mae’n dod.

“Gobeithio bydd hynny’n ddigon da i mi helpu LAFC ac, yn y pen draw, bod yn barod ar gyfer Cwpan y Byd.”

Rob Page yn brolio ei gapten

Un dyn sy’n amlwg â ffydd yn Gareth Bale yw rheolwr Cymru, Rob Page, sy’n dweud fod ei gapten yn edrych yn “ffres”.

“Fyddech chi ddim wedi meddwl ei fod newydd ddod oddi ar awyren o’r Unol Daleithiau,” meddai wrth y wasg.

“Dechreuodd ei baratoad cyn gynted ag yr aeth y chwiban olaf yn ei gêm.

“Dydw i ddim wedi fy synnu gan ei broffesiynoldeb, ond cefais fy synnu gyda pha mor ffres yr oedd yn edrych.”