Mae Osian Pryce, y Cymro Cymraeg o Fachynlleth, wedi ennill Pencampwriaeth Ralio Prydain gydag un ras yn weddill o’r bencampwriaeth.

Daw hyn yn dilyn ei fuddugoliaeth yn Rali Trackrod Swydd Efrog y penwythnos hwn.

Dyma’r tro cyntaf iddo fe a’i gyd-yrrwr Noel O’Sullivan ennill y bencampwriaeth ar ôl dod yn ail dair gwaith.

Doedd hi ddim yn ymddangos fel pe bai e dan unrhyw bwysau ar ôl sicrhau blaenoriaeth yn y rali yn nhywyllwch y nos ar nos Wener, ac fe enillodd y gyrrwr 29 oed bedwar allan o chwe chymal wrth ddychwelyd i draeth Filey i gipio’r tlws sydd wedi’i ennill yn y gorffennol gan yrwyr uchel eu parch fel Colin McRae, Ari Vatanen, Stig Blomqvist a Hannu Mikkola.

“Dw i wedi bod eisiau cael fy enw ar y tlws erioed,” meddai ar ôl ennill y bencampwriaeth.

“Mae hi wedi bod yn broses mor hir i gael hyn i ddigwydd, ac mae’n rhaid i fi ddweud diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi gwneud i hyn ddigwydd.

“Ryden ni wedi bod yn amyneddgar, wnaeth yr awch fyth diflannu felly dw i’n falch ein bod ni wedi’i gadw fo a chadw ati.

“Dw i wedi bod yn ceisio gwneud hyn ers blynyddoedd lawer, a bydda i bob amser yn ddiolchgar am haelioni, caredigrwydd a chefnogaeth pobol. Dw i ond yn gobeithio bod hyn yn eu had-dalu nhw oherwydd dw i’n falch iawn ohonyn nhw ac yn falch o’r hyn ryden ni wedi’i gyflawni.”

Y ras

Yn yr un modd â’r pum rownd flaenorol, roedd hi’n frwydr rhwng Osian Pryce a Keith Cronin am y teitl, gyda’r Gwyddel yn mynd am bumed coron Brydeinig er mwyn efelychu’r record.

Ond fe wnaeth Cronin gamgymeriad allweddol ar y noson gyntaf nos Wener ac er iddyn nhw gofnodi dau amser cyflymaf yn ystod y rali, roedd gan y Gwyddel a’i gyd-yrrwr Mikie Galvin ormod i’w wneud i atal y Cymro.

Hefyd ar y podiwm roedd Max Freeman a Ruiari Bell.

Y Cymro James Williams a’i gyd-yrrwr Dai Roberts orffennodd yn bedwerydd, gyda Garry Pearson a Dale Furniss yn bumed.