Mae Rob Page, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, yn dweud na fydd y golled o 1-0 yn erbyn Gwlad Pwyl yn Stadiwm Dinas Caerdydd neithiwr (nos Sul, Medi 25) yn amharu ar baratoadau’r tîm cyn Cwpan y Byd yn Qatar.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Cymru’n gostwng i Gynghrair B yn y gystadleuaeth, ar ôl i Karol Šwiderski sgorio unig gôl y gêm ar ôl 57 munud.

Daeth Brennan Johnson yn agos at sgorio sawl gwaith i Gymru, tra bod Gareth Bale wedi taro’r trawst yn hwyr yn yr ornest, ond daeth eiliad euraid y gêm wrth i Robert Lewandowski osod y bêl o flaen y sgoriwr, wrth i hwnnw ergydio heibio Wayne Hennessey.

Dyma gêm olaf Cymru cyn iddyn nhw fynd i Qatar, gyda llefydd yn y garfan yn y fantol.

“Mae’n gas gennym ni i gyd golli gêm bêl-droed, dydyn ni ddim yn hoffi’r ffaith ein bod ni’n gostwng,” meddai Rob Page.

“Ond gadewch i ni edrych ar y gwrthwynebwyr rydyn ni wedi’u herio – yr Iseldiroedd, Gwlad Belg a Gwlad Pwyl.

“Ac rydyn ni wedi cael llawer o anafiadau.

“Ond dydy hi ddim am ein taflu ni oddi ar ein hechel, dydy hi ddim am effeithio ar ein hyder ni mewn unrhyw ffordd.

“Cawson ni ddyrchafiad, roedden ni eisiau defnyddio chwarae yn y gynghrair hon fel teclyn i wella ein chwaraewyr ifainc a’u cyflwyno nhw i chwaraewyr a thimau gwell, a dyna rydyn ni wedi’i wneud.

“O’n safbwynt ni, yn sgil y cynnydd dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi bod mewn gemau fel yr oedden ni heddiw.

“Fe wnaethon ni greu digon o gyfleoedd i ennill gyda’n hail dîm, a dydy hynny ddim yn amharchus i’r chwaraewyr oedd allan yno, ond pan fo Aaron Ramsey, Harry Wilson, Ben Davies, Joe Allen, Ethan Ampadu a Chris Mepham ar goll, mae’n dolc sylweddol o’r tîm.”