Mae tîm criced Morgannwg wedi colli gêm gartref ola’r tymor yn erbyn Swydd Gaerloyw o ddeg wiced.

Ar ôl dechrau’r diwrnod olaf ar 57 am chwech, roedd angen iddyn nhw gyrraedd 110 i orfodi’r ymwelwyr i fatio eto.

Llwyddon nhw i wneud hynny o drwch blewyn, wrth gael eu bowlio allan am 124.

Y troellwr llaw chwith o Bacistan, Zafar Gohar, gipiodd dair o’r wicedi oedd eu hangen, gan orffen gyda chwech am 43.

Tarodd e goes Andrew Salter o flaen y wiced a bowlio Ruaidhri Smith, cyn i Ryan Higgins fowlio Dan Douthwaite.

Daeth y batiad i ben wrth i Timm van der Gugten gael ei ddal gan Graeme van Buuren oddi ar fowlio Zafar.

Cyrhaeddodd agorwyr Swydd Gaerloyw, Miles Hammond a Chris Dent y nod o 15 mewn 1.3 o belawdau.

Taith i’r Oval sydd yn weddill i Forgannwg, ac mae’r cwestiynau am safon y batio’n parhau.

Morgannwg dan bwysau yn eu gêm gartref olaf

Maen nhw’n 57 am chwech yn eu hail fatiad, ar ei hôl hi o 53 rhediad yn erbyn Swydd Gaerloyw

Swydd Gaerloyw mewn sefyllfa gref yng Nghaerdydd

Wrth ymateb i 309 Morgannwg, mae’r ymwelwyr yn 224 am bedair

Batiwr ifanc yn achub Morgannwg ar y diwrnod cyntaf yn erbyn Swydd Gaerloyw

Eddie Byrom wedi sgorio 60 heb fod allan yn ei fatiad cyntaf i’r sir yng Nghaerdydd
Gerddi Sophia

Morgannwg v Swydd Gaerloyw: gêm gartref ola’r tymor

Morgannwg am geisio osgoi trydedd crasfa yn olynol