Mae Sefydliad Cwpan y Byd y Digartref wedi cyhoeddi y bydd y Cwpan Her y Pedair Gwlad cyntaf erioed yn cael ei gynnal yng Nghaeredin dros benwythnos Medi 18 a 19.

Bydd y timau ym mhrifddinas yr Alban i gystadlu am Gwpan Her y Pedair Gwlad a byddan nhw’n dod â thîm dynion a merched ar gyfer y digwyddiad deuddydd.

Ar ôl i ddwy bencampwriaeth flynyddol gael eu gohirio oherwydd pandemig y coronafeirws, mae’r Sefydliad wedi cyflwyno’r digwyddiad rhanbarthol deuddydd rhwng Partneriaid Pêl-droed Stryd o Loegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru.

Bydd timau’n cystadlu mewn twrnament ar y dydd Sadwrn cyn y rowndiau terfynol ar y dydd Sul.

Bydd y penwythnos hefyd yn cynnwys adloniant a gemau i arddangos doniau.

Ar y dydd Sadwrn, bydd gweithwyr allweddol yn chwarae mewn gêm arbennig ac ar y dydd Sul, bydd tîm o Aelodau o’r Senedd yn herio’r Fun Lovin’ Crime Writers, tîm o awduron o’r Alban.

“Mae Sefydliad Cwpan y Byd y Digartref yn falch iawn o gyflwyno’r twrnament unigryw hwn ar gyfer ein Partneriaid Pêl-droed Stryd yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru,” meddai Mel Young, Llywydd a Sylfaenydd Cwpan y Byd y Digartref.

“Bydd Cwpan Her y Pedair Gwlad yn defnyddio’r un cynllun a rheolau â’n twrnament blynyddol a bydd yn rhoi cyfle i chwaraewyr sydd wedi cael eu hamddifadu o bêl-droed cystadleuol fod yn gwneud yr hyn y maen nhw’n ei garu a bod allan ar y cae eto a chynrychioli eu gwlad.”

‘Braf bod yn rhan o dîm’

“Dwi wir yn mwynhau chwarae pêl-droed,” meddai Lloyd Jones, sy’n chwarae yn ei bencampwriaeth gyntaf dros Gymru.

“Cyflwynodd un o’m gweithwyr cymorth fi i Bêl-droed Stryd Cymru. Mae wedi bod yn wych i mi.

“Maen nhw wedi bod yn help enfawr.

“Mae mor braf teimlo’n rhan o dîm.

“Mae’n griw gwych o fechgyn ac rydym i gyd yn cyd-dynnu’n dda iawn ac yn cefnogi ein gilydd.”