Mae tîm criced Morgannwg dan bwysau ar ddiwedd trydydd diwrnod eu gêm Bencampwriaeth olaf yng Nghaerdydd yn erbyn Swydd Gaerloyw.

Ar ôl i’r ymwelwyr gael eu bowlio allan am 419, gan adeiladu blaenoriaeth batiad cyntaf o 110 a sgorio 400 am y tro cyntaf y tymor hwn, maen nhw wedi cyfyngu Morgannwg i 57 am chwech.

Roedd Morgannwg, ar un adeg, yn 39 heb golli wiced.

Mae angen 53 rhediad arall ar Forgannwg i orfodi Swydd Gaerloyw i fatio eto.

Ar ôl dechrau’r diwrnod ar 224 am bedair yn eu batiad cyntaf, llwyddodd Swydd Gaerloyw i gipio pwyntiau batio llawn wrth sgorio 195 o rediadau am y pum wiced olaf.

Tarodd Tom Price naw pedwar wrth sgorio 71.

Manylion

Cipiodd Morgannwg wiced oddi ar ail belen y dydd, wrth i David Lloyd daro coes Graeme van Buuren o flaen y wiced i ddod â’i fatiad o 65 yn ei gêm gyntaf i ben.

Cwympodd dwy wiced yn gyflym wrth i Forgannwg droi at Michael Hogan a Timm van der Gugten, gyda Zafar Gohar wedi’i ddal gan y wicedwr Chris Cooke am bump a Wells wedi’i ddal gan David Lloyd oddi ar fowlio’r Iseldirwr van der Gugten am 40.

Ond roedd Swydd Gaerloyw ar y blaen o fewn dim o dro wrth i Ben Charlesworth a Tom Price angori’r batiad unwaith eto cyn i Charlesworth gael ei fowlio gan Ruaidhri Smith am 44, a’i dîm yn 310 am wyth.

Saith rediad o fantais oedd gan yr ymwelwyr erbyn amser cinio cyn i David Payne daro 34 wrth ychwanegu 69 am y nawfed wiced gyda Tom Price.

Cyrhaeddodd Price ei hanner canred oddi ar 127 o belenni cyn i Hogan daro’i goes o flaen y wiced am 71.

Ail fatiad Morgannwg

Ar ôl adeiladu partneriaeth agoriadol o 136 yn eu batiad cyntaf, dim ond 39 sgorion nhw yn yr ail cyn i David Lloyd gael ei ddal gan Miles Hammond yn y slip oddi ar fowlio Payne am 17.

Wrth droi at y troellwr Zafar Gohar, daeth rhagor o lwyddiant i’r ymwelwyr wrth i Hamish Rutherford gael ei ddal gan Hammond oddi ar belen gynta’r belawd i adael Morgannwg yn 39 am ddwy.

Cipiodd Zafar wicedi mewn pelawdau olynol i waredu Nick Selman a Kiran Carlson heb i’r naill na’r llall sgorio ac roedd Morgannwg yn 46 am bedair, gyda’r troellwr llaw chwith wedi cipio tair wiced am dri rhediad mewn pedair pelawd.

Cafodd Eddie Byrom ei fowlio gan Ryan Higgins wedyn, cyn i Chris Cooke gael ei ddal gan Dent oddi ar fowlio van Buuren am chwech.

Unwaith eto, mae Morgannwg yn wynebu colled drom yn ystod cyfnod digon siomedig yn y Bencampwriaeth ers iddyn nhw ennill Cwpan Royal London a throi eu sylw o’r gemau undydd yn ôl at y fformat hir.