Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a BBC Cymru Wales wedi cyhoeddi cytundeb partneriaeth ddarlledu newydd sy’n golygu y bydd holl gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2023 tîm merched Cymru yn cael eu darlledu’n fyw.
Mae tîm Gemma Grainger yn anelu i gyrraedd y rowndiau terfynol, sy’n cael eu cynnal yn Awstralia a Seland Newydd, am y tro cyntaf.
Bydd Cymru’n dechrau eu hymgyrch nos Wener (Medi 17) pan fyddan nhw’n herio Kazakhstan ym Mharc y Scarlets yn Llanelli.
Bydd BBC Two Wales yn darlledu’r gêm yn fyw ar Match of the Day Wales o 7yh, gyda’r gic gyntaf am 7.15yh.
Hon fydd gêm gystadleuol gyntaf Gemma Grainger, wnaeth gymryd yr awenau yn dilyn ymadawiad Jayne Ludlow.
Bydd y tîm hefyd yn croesawu’r Wal Goch yn ôl gan y bydd cefnogwyr yn gallu mynychu gêm merched genedlaethol am y tro cyntaf ers mis Mawrth y llynedd.
Bydd Cymru wedyn yn teithio i Estonia ar gyfer ail gêm eu hymgyrch bedwar diwrnod yn ddiweddarach, gyda BBC Two Wales unwaith eto’n darlledu’n fyw ar Match of the Day Wales o 5.50yh.
Ysbrydoli merched
“Rwyf wrth fy modd yn cyhoeddi mai BBC Cymru Wales fydd partneriaid darlledu Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2023 – gan ychwanegu at restr gynyddol BBC Cymru Wales o ddarllediadau o chwaraeon Cymru ar draws ein llwyfannau,” meddai Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr Cynnwys a Gwasanaethau BBC Cymru Wales.
“Mae cymaint o ferched wedi cael eu hysbrydoli i chwarae pêl-droed ar ôl gwylio ein tîm yn chwarae ar y llwyfan rhyngwladol.
“Mae’r penderfyniad hwn yn tanlinellu ein hymrwymiad i’n tîm cenedlaethol ac i chwaraeon Cymru, ac ni allaf aros i’r ymgyrch hon ddechrau wrth i ni ddilyn Gemma Grainger a’i charfan wrth iddynt geisio cyrraedd Cwpan y Byd.”
Cafodd ei neges ei hategu gan y capten Sophie Ingle.
“Pan oeddwn i’n ferch ifanc yn dechrau ar fy nhaith bêl-droed doedd dim pêl-droed merched ar y teledu,” meddai.
“Bydd cael darlledu ein gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2023 yn fyw ar BBC Cymru yn dangos i’r genhedlaeth nesaf fod llwybr yn bodoli ac rydym yn gobeithio y gallwn ysbrydoli mwy o ferched i chwarae’r gêm.”
Ymhlith y gwledydd eraill yng ngrŵp rhagbrofol Cymru mae Ffrainc, Gwlad Groeg a Slofenia, gyda’r gêm ragbrofol olaf i’w chynnal fis Medi nesaf.