Mae’r holl docynnau ar gyfer y gêm rygbi gyntaf yn Stadiwm Principality ers dechrau’r pandemig wedi’u gwerthu.

Bydd Cymru’n croesawu Seland Newydd i Gaerdydd ar ddydd Sadwrn, Hydref 30, a fydd yno’r un sedd wag yn y stadiwm.

Dyma’r tro cyntaf ers pedair blynedd i’r Crysau Duon ymweld â’r brifddinas.

Wythnos yn ddiweddarach, bydd Cymru’n wynebu De Affrica, cyn chwarae yn erbyn Ffiji ddydd Sul, Tachwedd 14.

Daw cyfres yr hydref i ben yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn, Tachwedd 20 ar ddiwedd mis a fydd yn gweld cannoedd o filoedd o gefnogwyr yn dychwelyd i chwaraeon byw yn Stadiwm Principality.

Mae’r Walabi wedi denu torf o 60,000 a mwy ar gyfartaledd dros eu tair taith ddiwethaf yng Nghymru (2019, 2018 a 2016) – ac fe allai’r 64,000 a welodd fuddugoliaeth enwog i Gymru yn 2019 weld rhywbeth tebyg eto.

Mis o ddathlu

“Rydym i gyd yn edrych ymlaen at fis o ddathlu yn Stadiwm Principality ac rydym yn barod i groesawu cefnogwyr yn ôl yn ddiogel,” meddai llefarydd ar ran swyddfa dicedi Undeb Rygbi Cymru.

“Bydd heriau newydd yn cael eu cyflwyno a byddwn yn dilyn cyngor Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru gan sicrhau bod yr holl ragofalon diogelwch priodol ar waith.

“Byddwn yn poeni am yr elfennau hyn fel nad oes rhaid i’r cefnogwyr ac, wrth gwrs, mae gennym bolisi ad-dalu llawn ar waith fel y gall cefnogwyr fod yn ddiogel gan wybod fod eu harian yn ddiogel os bydd amgylchiadau personol neu genedlaethol yn newid oherwydd pandemig y coronafeirws.”