Mae tîm criced Swydd Gaerloyw mewn sefyllfa gref ar ddiwedd ail ddiwrnod y gêm Bencampwriaeth olaf yng Nghaerdydd.
Ar ôl bowlio Morgannwg allan am 309, maen nhw’n 224 am bedair yn eu batiad cyntaf.
11.3 o belawdau yn unig gymerodd hi i’r ymwelwyr gipio’r pedair wiced olaf am 45 yn ystod y bore.
Roedd Eddie Byrom heb fod allan ar 60 dros nos, ond unwaith iddo gael ei fowlio am 78 gan David Payne, agorodd y llifddorau i ddirwyn y batiad i ben yn gyflym.
Batiad cynta’r ymwelwyr
Batiodd Chris Dent a Miles Hammond yn gadarn wrth adeiladu partneriaeth o hanner cant cyn cinio.
Yn fuan wedi’r egwyl, cafodd Morgannwg wiced allweddol wrth i Michael Hogan waredu Hammond, a gafodd ei ddal yn gelfydd ag un llaw gan y wicedwr Chris Cooke.
Dair pelawd gymerodd hi i David Lloyd ganfod ymyl bat Tom Lace a Cooke yn cipio chwip o ddaliad isel eto.
Cyrhaeddodd Dent ei hanner canred oddi ar 108 o belenni ond cyn i’r golau bylu, cipiodd y troellwr Andrew Salter ddwy wiced mewn pelawd wrth fowlio Dent am 75 – ei ganfed wiced dosbarth cyntaf – a tharo coes Ryan Higgins o flaen y wiced.
Yn ystod y batiad, cyrhaeddodd Cooke y garreg filltir o waredu 200 o fatwyr y tu ôl i’r wiced mewn gemau dosbarth cyntaf.
Gallai wicedi cynnar ar y trydydd diwrnod fod yn allweddol i Forgannwg er mwyn atal y Saeson rhag adeiladu blaenoriaeth swmpus.