Fe fydd tîm criced Morgannwg yn ceisio osgoi trydedd crasfa’n olynol wrth iddyn nhw groesawu Swydd Gaerloyw i Gaerdydd ar gyfer gêm gartref ola’r tymor.

Maen nhw wedi colli’r ddwy gêm ddiwethaf yn erbyn Durham ac Essex yn drwm ar ôl i’r gystadleuaeth gael ei hollti’n grwpiau newydd ar gyfer y rowndiau olaf.

Er mai’r batio fu’n wan yn y gemau diwethaf, mae’r chwaraewr amryddawn Ruaidhri Smith, sydd newydd lofnodi cytundeb blwyddyn newydd, a’r bowliwr cyflym llaw chwith Jamie McIlroy wedi cael eu hychwanegu at y garfan ar ôl gwella o anafiadau a pherfformio’n dda i’r ail dîm.

Cipiodd Smith bum wiced am 43 yn ei gêm ddiwethaf, tra bod McIlroy wedi cipio pedair am 59 yn erbyn Swydd Derby, gyda’r ddau yn cipio dwy wiced yr un yn erbyn Swydd Efrog.

Bydd Eddie Byrom, sydd ar fenthyg o Wlad yr Haf cyn symud yn barhaol ar ddiwedd y tymor, yn chwarae ei gêm gartref gyntaf i’w sir newydd ar ôl chwarae oddi cartref yn Durham.

Gemau’r gorffennol

Yn ôl trefn arferol mis Medi, mae’r gêm yn dechrau am 10.30yb bob dydd.

Roedd Morgannwg yn fuddugol y tro diwethaf iddyn nhw herio Swydd Gaerloyw, a honno ym Mryste yn 2019 pan darodd yr Awstraliad Marnus Labuschagne 82 wrth i Forgannwg gwrso 188 mewn 49 pelawd ar y prynhawn olaf.

Yng Nghasnewydd yr haf hwnnw, tarodd Labuschagne ganred gyda Nick Selman, sydd hefyd yn enedigol o Awstralia, yn taro 150 wrth i Forgannwg ganlyn ymlaen a gosod nod o 269 i’r gwrthwynebwyr mewn 51 pelawd a’u cyfyngu i 137 am chwech wrth i’r ornest orffen yn gyfartal.

Swydd Gaerloyw oedd yn fuddugol yng Ngerddi Sophia yn 2018 wrth i Craig Miles gipio wyth wiced a Jack Taylor yn sgorio 112.

Yn 2017, tarodd Kiran Carlson, y batiwr ifanc o Gaerdydd, 191 wrth ddod o fewn naw rhediad i dorri record fel y batiwr ieuengaf yn hanes y sir i daro canred a chanred dwbwl. Mae ganddo fe 842 o rediadau dosbarth cyntaf y tymor hwn – does neb o Gymru wedi cyrraedd y garreg filltir o 1,000 o rediadau mewn tymor ers Aneurin Donald a Will Bragg yn 2016.

Mae gan Andrew Salter 99 o wicedi dosbarth cyntaf, a 92 i Forgannwg, ac fe fu bron iddo fe dorri record arall yn erbyn Durham wrth ddod o fewn deg rhediad i fod y batiwr cyntaf o Sir Benfro i daro canred i’r sir.

Carfan Morgannwg: C Cooke (capten), E Byrom, L Carey, K Carlson, D Douthwaite, M Hogan, D Lloyd, J McIlroy, S Reingold, H Rutherford, A Salter, N Selman, R Smith, T van der Gugten

Carfan Swydd Gaerloyw: J Bracey, M Hammond, C Dent (capten), T Lace, R Higgins, D Payne, G Scott, O Price, G van Buuren, B Charlesworth, J Warner, T Price, Zafar Gohar

Sgorfwrdd