Cafodd tîm pêl-droed Abertawe brynhawn rhwystredig wrth i’w gêm Bencampwriaeth yn erbyn Hull yn Stadiwm Swansea.com orffen yn gyfartal ddi-sgôr.

Mae’r rheolwr newydd Russell Martin yn dal i geisio gosod ei stamp ar y tîm ac roedd ambell fflach o’r bêl-droed ddeniadol mae e am i’w dîm ei chwarae, ond mae prinder cyfleoedd gwirioneddol i sgorio yn parhau’n broblem i’r Elyrch.

Llwyddon nhw i gael 15 ergyd at y gôl, serch hynny, o gymharu ag un ergyd Hull, oedd wedi aros yn amddiffynnol gadarn gan atal yr Elyrch rhag cael gormod o le i fygwth yn ymosodol.

Dim ond un gôl mae’r Elyrch wedi’i sgorio yn eu tair gêm gartref ac er i Olivier Ntcham gael gêm gyntaf addawol, doedd ei ymdrechion ddim yn ddigon i agor y llifddorau.

Yn y cefn, cafodd y Rhys Williams ifanc gêm addawol yng nghanol yr amddiffyn wrth wisgo crys yr Elyrch am y tro cyntaf, gyda’r rheolwr yn gwneud pum newid i’r tîm, gan gynnwys y golwr Ben Harmer yn cael ei ddewis o flaen Steven Benda ar ôl y golled yn Preston.

Hefyd yn dychwelyd roedd Kyle Naughton a Flynn Downes ac fe gynigion nhw gadernid yn y cefn i Abertawe wrth i Hull chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf mewn pum gêm.

Cyfleoedd – ond cyfleoedd da yn brin

Wrth ddal eu gafael ar y bêl am gyfnodau hir, daeth cyfle cynta’r gêm i Ntcham wrth iddo gyfuno â Joel Piroe, a hwnnw’n ergydio at y golwr Matt Ingram.

Cafodd Ntcham ei lorio o fewn pellter cic rydd at y gôl o fewn 24 munud, a bu’n rhaid i Ingram fod yn effro unwaith eto i arbed ymdrech y capten Matt Grimes.

Ddeng munud yn ddiweddarach, tro Naughton oedd hi wrth fylchu ac ergydio’n rymus ond roedd y golwr yn barod amdani unwaith eto.

Byddai Hull wedi bod yn hapus â’r sgôr ar yr egwyl ar ôl dim ond 30% o’r meddiant drwy gydol yr hanner.

Dylai’r Elyrch fod wedi cael cic o’r smotyn ar ôl 53 munud pan gafodd Ethan Laird ei lorio ar ôl curo Callum Elder i’r bêl.

Daeth bloedd arall eiliadau’n ddiweddarach pan gafodd Jamie Paterson ei lorio, ond yr un oedd y canlyniad yn y pen draw.

Er i Michael Obafemi ddod oddi ar y fainc yn ei gêm gyntaf, doedd ganddo fe ddim digon o amser i greu argraff yng nghrys yr Elyrch, a bydd yn rhaid iddyn nhw fodloni ar bwynt eto cyn croesawu Millwall ganol yr wythnos hon.