Fe wnaeth Eddie Byrom, y batiwr ifanc sydd ar fenthyg o Wlad yr Haf, achub Morgannwg ar ddiwrnod cyntaf eu gêm Bencampwriaeth gartref olaf yn erbyn Swydd Gaerloyw.
Tarodd e 60 heb fod allan wrth i’w dîm lithro i 191 am chwech, cyn gorffen ar 264 am chwech wrth iddo fe adeiladu partneriaeth ddi-guro o 73 gydag Andrew Salter wrth ddod i’r llain ar ôl i Forgannwg golli dwy wiced mewn dwy belen.
Ar ôl cael eu gwahodd i fatio, dechreuodd Morgannwg yn gadarn gyda phartneriaeth agoriadol o 136 rhwng Hamish Rutherford (62) a David Lloyd (73), gyda’r sir Gymreig yn 107 heb golli wiced erbyn amser cinio wrth i Lloyd gyrraedd ei hanner canred oddi ar 72 o belenni ar ôl cael ei ollwng yn gynnar yn y batiad.
Dechreuodd Morgannwg sesiwn y prynhawn yn gadarn unwaith eto, ond cafodd David Lloyd ei ddal gan Ollie Price yn y slip oddi ar fowlio Ryan Higgins i arafu’r sgorio ychydig.
Nick Selman oedd yr ail fatiwr allan, wrth iddo fe gael ei ddal gan y wicedwr Ben Wells oddi ar fowlio David Payne bedair pelen yn ddiweddarach.
Erbyn i Rutherford gael ei fowlio gan Jared Warner, roedd Morgannwg wedi llithro ychydig i 149 am dair, ac er gwaethaf ymdrechion Kiran Carlson, a gafodd ei ddal gan Ollie Price oddi ar fowlio’i frawd Tom am 17, roedd gwaeth i ddod.
Fe wnaeth Tom Price gosbi’r batwyr ymhellach i gipio dwy wiced arall i orffen gyda thair wiced am 44, ac roedd Morgannwg wedi colli pedair wiced am 43 cyn te.
Cafodd Chris Cooke ei fowlio gan Tom Price gyda’r sgôr erbyn hynny’n 191 am bump, ac fe wnaeth yr un bowliwr daro coes Dan Douthwaite o flaen y wiced oddi ar y belen ganlynol.
Mae Byrom wedi wynebu 183 o belenni hyd yn hyn ac fe fydd yn rhaid iddo fe brofi ar yr ail ddiwrnod pam fod Morgannwg wedi ei ddewis i geisio cryfhau’r batio.