Mae Elfyn Evans wedi gorffen yn y chweched safle yn Rali Acropolis Groeg.

Mae’r canlyniad yn golygu ei fod e wedi colli rhagor o dir yn y ras am y bencampwriaeth, a’i fod e 44 pwynt y tu ôl i Sebastien Ogier, oedd wedi gorffen yn drydydd.

Kalle Rovenpera enillodd y rali, wrth i Evans orffen y cymal olaf yn ail i gipio pedwar pwynt bonws.

Roedd yr ysgrifen ar y mur i Evans a’i gyd-yrrwr Scott Martin ddydd Gwener (Medi 10), pan gollon nhw bum munud yn dilyn trafferthion â’r car oedd yn golygu bod modd codi gêr ond nid gostwng gêr.