Mae tîm dartiau Cymru’n gobeithio cadw eu gafael ar dlws Cwpan y Byd ar ôl cyrraedd rownd wyth ola’r gystadleuaeth, lle byddan nhw’n herio Awstralia am le yn y rownd gyn-derfynol.

Cafodd Gerwyn Price a Jonny Clayton dipyn o fraw yn erbyn Lithwania cyn ennill y gêm olaf i sicrhau eu lle yn y rownd nesaf.

Roedd canlyniad yr ornest yn dibynnu ar y parau, a bu’n rhaid iddyn nhw dorri tafliad eu gwrthwynebwyr i gipio’r fuddugoliaeth, gyda Price yn herio Mindaugas Barauskas, gan ennill o 4-2 gyda chyfartaledd tri dart o 92.

Curodd Darius Labanauskas Jonny Clayton o 4-2 wrth i’r Cymro geisio unioni’r sgôr ar ôl trechu cyfartaledd tri dart ei wrthwynebydd o 95 i 88.

Ond roedd Labanauskas yn well wrth daflu’r dyblau, gan lwyddo â 66% o’i dafliadau o’i gymharu â 28% Clayton.

Yn y parau, gallai Price fod wedi ennill yr ornest i Gymru ar ôl bod ar y blaen o 3-2 ond fe wnaeth e fethu ymgais i gau pen y mwdwl arni.

Roedd angen i Gymru dorri’r tafliad wedyn i aros yn y gystadleuaeth, ac fe lwyddon nhw i wneud hynny.